Gwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2025
25 Mehefin 2025 – Gwesty Leonardo Caerdydd (Jury’s Inn gynt)
Proses enwebu syml - Arddangos eich gwaith - categorïau cyffrous!
Byddwch yn rhan o’n gwobrau cenedlaethol yn 2025 – ffordd wych o rannu, cydnabod a dathlu’r gwaith gwych rydych chi a thenantiaid yn ei wneud yn eich sefydliadau a’ch cymunedau.
Mae’r adeg o’r flwyddyn yma eto ble y byddwn yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Arfer Da blynyddol TPAS Cymru. Mae gennym ni amrywiaeth wych o gategorïau i chi gystadlu gan gynnwys rhai newydd sbon.
Mae enwebu ar gyfer y Gwobrau yn rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru ac rydym wedi symleiddio’r broses enwebu.
Eleni, cynhelir y Seremoni Wobrwyo ar 25 Mehefin, yng Ngwesty Leonardo, Caerdydd yn ystod Cinio Gala gyda'r nos, gan ei wneud yn ddathliad go iawn. Yn ogystal, yn ystod y dydd, byddwn yn cynnal ein Cynhadledd Undydd.
Eleni, mae gennym ystod wych o gategorïau gan gynnwys rhai newydd sbon. Am fanylion llawn a’r meini prawf, gweler y Categorïau a’r Meini Prawf ar gyfer pob categori sydd hefyd wedi eu nodi ar y ffurflenni enwebu unigol isod. Ceir rhagor o awgrymiadau cyffredinol yn y Ddogfen Ganllawiau
Cliciwch y dolenni isod i lawr lwytho’r ffurflenni enwebu unigol ac i ddarllen mwy am feini prawf y beirniadu:
-
NEWYDD Tenantiaid yn Dylanwadu ar Wneud Penderfyniadau
-
Cynnwys Tenantiaid mewn Mentrau / Prosiectau Amgylcheddol
-
Cynnwys Tenantiaid wrth Ddylunio neu Adolygu Gwasanaethau
-
Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau
-
Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr
-
Rhaglen Cymorth/Cyngor i Breswylwyr
-
Tenant y Flwyddyn
-
NEWYDD Cyfraniad Staff Eithriadol
-
NEWYDD Llwyddiant Eithriadol – Tenant
Mae’r broses ar gyfer enwebu yn syml:
-
Dewiswch pa gategori yr ydych am ei gyflwyno a lawr lwythwch y ffurflen enwebu berthnasol o’r rhestr uchod
-
Darllenwch y Meini Prawf a’r Canllawiau sydd yn rhoi rhagor o fanylion i chi ar sut i wneud hyn
-
Dychwelwch eich enwebiad erbyn canol dydd 30 Ebrill 2025
Os fydd eich cais yn cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw fel y gallwch drefnu i fod yn y Cinio Gala.
Os nad ydych chi’n siŵr sut i ‘fynd ati’? Neu efallai eich bod am ofyn cwpl o gwestiynau am ba wybodaeth sydd angen i chi ei chynnwys yn y gwaith papur? Beth bynnag fo’ch cwestiwn neu bryder byddwn yn gallu helpu! Ymunwch â ni mewn sesiwn amser cinio anffurfiol ond hynod ddefnyddiol pan fyddwn yn rhoi rhai Awgrymiadau Da i chi ar sut i wneud eich enwebiad y gorau y gall fod: Dydd Mercher, 5 Mawrth - 1.00pm - 1.30pm
Diolch i'r noddwyr canlynol:
