Mae TPAS Cymru wedi cefnogi tenantiaid a landlordiaid tai cymdeithasol yng Nghymru ers dros 30 mlynedd a chyda hanes cryf o ddatblygu cyfranogiad effeithiol trwy hyfforddiant, cefnogaeth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Mae gennym wybodaeth helaeth am dai cymdeithasol gyda ffocws ar faterion o safbwynt tenantiaid, ac er budd y tenantiaid.
Yn lleol, rydym yn datblygu arferion gorau ar lefel landlordiaid, grwpiau tenantiaid a phrosiectau trwy gyngor ymarferol, cefnogaeth, hyfforddiant a gwaith prosiect Ar draws Cymru, rydym yn gwella ansawdd cyfranogiad tenantiaid trwy ledaenu a hybu arfer da.
Ar lefel Llywodraeth, rydym yn cyfrannu tuag at newid polisi trwy roi gwybod am ddatblygiadau polisi a materion, sianelu profiad ac anghenion tenantiaid a landlordiaid i wneuthurwyr polisi, a gweithio gyda sefydliadau partner i ddylanwadu ar bolisi.