Mae David wrth ei fodd mynd o gwmpas gyda'n haelodau, i gyflenwi ystod o wasanaethau ymgynghori a hyfforddiant yn ogystal â darparu cyngor a chymorth ymarferol. Gallwch hefyd ddod o hyd iddo mewn amrywiol gyfarfodydd ledled y sector yn cynrychioli TPAS Cymru a’i aelodaeth. Mae David yn goruchwylio gwaith a gyflenwir o’n swyddfa yng Ngogledd Cymru ac mae’n arwain ar feysydd cyflenwi allweddol gan gynnwys craffu, rheoleiddio a pholisi tai. Mae'n rhannu ein gweledigaeth bod cyfranogiad tenantiaid rhagorol yn allweddol i adeiladu perthynas gref, sydd o fudd i'r ddwy ochr, lle mae tenantiaid a landlordiaid yn gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau a chymunedau.
Cyn TPAS Cymru, bu David yn gweithio yn y sector Cymdeithas Tai a Llywodraeth Leol mewn rolau amrywiol gan gynnwys rheoli tai, digartrefedd a gwasanaethau cwsmeriaid. Mae’r ffaith ei fod yn swyddog proffesiynol tai cymwys a phrofiadol wedi bod o fudd gwirioneddol i'n haelodau gan fod David yn defnyddio dull ymarferol, byd real yn ei waith. Mae David yn adnabyddus ac yn uchel ei barch yn y byd tai. Mae'n gwybod ei stwff a gallwch weld hynny yn y gwaith mae’n ei
gyflenwi i aelodau.
"Wedi ymrwymo i gyflenwi atebion ymarferol i’n aelodau"