Mae bob dydd i David yn ymwneud â TPAS Cymru yn helpu tenantiaid a landlordiaid i ymgysylltu mewn ffyrdd mwy hygyrch a chost-effeithiol. Mae'n rhaid i ni i gyd wella cydweithrediad a chyfranogiad ar draws holl dai Cymru. Mae David wastad yn hyrwyddo’r achos dros gyfathrebu gwell, defnyddio atebion digidol a gweithio cydweithredol. Ymunodd â TPAS Cymru yn 2015.
Yn flaenorol, roedd David yn gweithio ym maes marchnata datblygiad digidol. Roedd ganddo swyddi rheoli yn y NatWest, uSwitch.com, Legal & General, Kagool a Chartrefi Cymru. Mae'n angerddol dros gyd-gynhyrchu a gweithredu datrysiadau creadigol newydd i wella cyfranogiad ac ymgysylltiad ym mhob agwedd o dai. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn Sero Net a sut y gall technoleg newydd a dulliau newydd o fyw wneud tai yn rhatach ac yn fwy cynaliadwy i fyw ynddynt.
"Mae pawb yn bwysig mewn tai"