Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon

 

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon.

Pwy ydyn ni?
Sefydliad dielw yw TPAS Cymru, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Ers 35 mlynedd, rydym wedi gweithio ledled Cymru i ddatblygu ymgysylltu effeithiol â thenantiaid a llais tenantiaid ym maes tai drwy hyfforddiant, cymorth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Rydyn ni'n caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n falch o'n gwaith.

Cefndir y rôl hon

Ledled Cymru, mae 222,000 o aelwydydd tai cymdeithasol (tai Cyngor a Chymdeithasau Tai) a 230,000 o rentwyr preifat.

Yn TPAS Cymru, rydym eisiau i lais a phrofiadau tenantiaid fod wrth wraidd cynlluniau a chael eu clywed wrth wneud penderfyniadau yn lleol ac ar lefel genedlaethol.

Swyddog Prosiectau a Digwyddiadau

Byddwch yn helpu i drefnu a chyflwyno digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac yn creu cynnwys digidol, yn ymchwilio ac yn goruchwylio arolwg ac yn helpu i ddadansoddi'r canlyniadau. Ymhen amser, byddwch yn cynnal digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, grwpiau ffocws, yn gwneud cynnwys cyfryngau cymdeithasol, yn creu astudiaethau achos ac yn dylanwadu ar landlordiaid a’r Llywodraeth. Mae angen i chi fod yn hyderus yn gweithio gydag ystod eang o bobl a chymunedau amrywiol yng Nghymru. I'r rhai sydd ei eisiau, mae gan y rôl lwybr datblygu i gyfleoedd a gwobrau mwy. 

Math o gytundeb: Parhaol 
Oriau:  5 diwrnod/35 awr yr wythnos
(Noder: Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud llai o oriau i ddiwallu eich anghenion, rhowch wybod i ni) 
Cyflog:   £27,000 y flwyddyn (swydd llawn amser)

Lleoliad:  Gwaith hybrid wedi'i leoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd gyda pheth teithio o amgylch Cymru. Mae gennym lwfans gwyliau da iawn, cyfraniad pensiwn o 5%, yswiriant bywyd grŵp, diwylliant moesegol.

Mae TPAS Cymru yn sefydliad Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Rydym yn cefnogi ac yn annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.

Poeni nad ydych chi'n bodloni'r holl feini prawf? Gwnewch gais beth bynnag!!

Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud cais am swydd fel hon, oherwydd eu bod yn teimlo nad ydynt yn bodloni pob rhan o'r disgrifiad swydd. Nid pobl ticio blychau ydyn ni, rydyn ni eisiau gwybod beth allwch chi ei gynnig, nid yr hyn nad oes gennych chi, a dylai eich cais adlewyrchu hynny. Os oes gennych chi'r agwedd gywir a'r sgiliau sylfaenol, rydyn ni'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ddatblygu i'r rôl.

Dyma'r Swydd Ddisgrifiad a manylion am y rôl hon

Yn ogystal, dyma drosolwg 1 dudalen o'r hyn y mae'r rôl yn ei olygu fel arfer

DYDDIADAU ALLWEDDOL
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: hanner dydd, dydd Mercher 19 Chwefror
  • Dyddiad cyfweliadau:  w/c 3 Mawrth

Diddordeb?  Yn gyntaf, darllenwch y disgrifiad swydd uchod, a chynghorwn yn gryf eich bod yn darllen y nodyn trosolwg ategol ynghylch sut beth yw'r rôl. Hefyd edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol, gwefan a sianel YouTube am wybodaeth am ein gwaith. Dysgwch fwy am bwy ydym ni a beth rydyn ni’n credu ynddo.

Barod i ymgeisio?
  1. Lawr lwythwch y ffurflen gais ffurflen cyfleoedd cyfartal.
  2. Anfonwch y ddau yn ôl gyda CV i [email protected] erbyn hanner dydd, dydd Mercher 19 Chwefror

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod y rôl yn fwy manwl, rydym yn barod i sgwrsio. Gyrrwch e-bost atom [email protected] a threfnwch amser ar gyfer galwad.  

Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.