Beth sydd wedi'i gynnwys yn eich aelodaeth fasnachol?
Pam ymuno?
Bod yn aelod o TPAS Cymru yw’r ffordd orau o ddangos ymrwymiad eich sefydliad i ymgysylltu â thenantiaid a chymunedau mewn tai.
Mae hefyd yn rhoi mynediad i chi i holl fanteision ein haelodaeth, ac yn eich helpu i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y maes tai yng Nghymru.
Trwy ein haelodaeth bydd eich sefydliad yn rhan o sefydliad cenedlaethol adnabyddus ac uchel ei barch sy'n gweithredu ar ystod o lefelau yn y sector tai.
Mae ein prif fanteision - ar gyfer sefydliadau Masnachol yn unig yn cynnwys:
• Defnydd unigryw o’n logo “Cefnogi llais y tenant” ar gyfer eich deunyddiau marchnata, dogfennau caffael a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
• Eich logo i'w weld ar ein tudalen we 'cefnogwyr'
• Gwahoddiad i Friffiadau Sector a digwyddiadau Bord Gron
• Cyfle i roi erthyglau neu fideos ar ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
• Mynediad am ddim i friffiau polisi amserol ar-lein i gael trosolwg cyfoes o'r newyddion tai diweddaraf
• Mynediad i weminarau aelodau yn unig TPAS Cymru
• Cyfle i noddi digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfraddau aelod gostyngol
• Buddiannau aelodaeth yn agored i bob aelod o staff/adran ar draws y sefydliad
• Hyd at 50% oddi ar ddigwyddiadau gan gynnwys briffiadau ar-lein a gweminarau a chynadleddau o gymharu â chyfraddau nad ydynt yn aelodau.
• Mynediad i’r cynnwys ‘aelod yn unig’ unigryw ar Wefan TPAS Cymru
• Hyrwyddiad cyfryngau cymdeithasol a gwefan ar gyfer aelodau newydd: yn dangos ymrwymiad eich sefydliad i Ymgysylltu â Thenantiaid
Costau
Mae'r aelodaeth fasnachol unigryw hon yn cychwyn o ddim ond £499 +TAW y flwyddyn – gyda gostyngiadau ar gael i Fentrau Cymdeithasol/CBC.
Am fwy o wybodaeth a/neu i sgwrsio am fuddion aelodaeth cysylltwch â David Lloyd