Mae ein Rhwydwaith Swyddogion mis Ionawr yn rhan o'n cydweithrediad cyffrous gyda'r Comisiwn Etholiadol

Rhwydwaith Swyddogion - Grymuso cymunedau trwy ddemocratiaeth

Dydd Iau 16 Ionawr 2025, 10:30am – 12pm

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS CymruMae ein Rhwydwaith Swyddogion Ionawr yn rhan o'n cydweithrediad cyffrous gyda'r Comisiwn Etholiadol.

Ymunwch â ni ar gyfer y Rhwydwaith Swyddogion TPAS Cymru arbennig hwn, lle byddwch yn clywed mwy am sut i siarad â chydweithwyr tai a thenantiaid am ddemocratiaeth a datganoli a chewch gyfle i rannu eich barn ar sut y gallwn chwalu'r rhwystrau a gwneud y broses ddemocrataidd ar gael i bob tenant.

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu newid parhaol a grymuso llais y tenant yng Nghymru. Drwy wrando ar eich barn a’ch profiadau o’ch gwaith eich hun, a dysgu beth sy’n gweithio orau i chi, byddwn yn datblygu argymhellion ymarferol i wella’r broses o rannu gwybodaeth am ddemocratiaeth mewn tai cymdeithasol..

Pwy ddylai fynychu?

Mae'r sesiwn hon ar gyfer staff sy'n ymwneud ag ymgysylltiad / cyfranogiad tenantiaid a chyfathrebu â thenantiaid.

Cost: Rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru 

Pethau i'w gwybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom fydd hwn
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma  

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Rhwydwaith Swyddogion - Grymuso cymunedau trwy ddemocratiaeth

Dyddiad

Dydd Iau 16 Ionawr 2025, 10:30 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Iau 16 Ionawr 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

Eleanor Speer

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X