Dydd Mawrth 7 Ionawr 2025: 1pm – 2.30pm
Mae'r Safon Ansawdd Tai Cymru newydd (SATC23) yn cynnwys disgwyliad clir bod landlordiaid cymdeithasol yn ymgysylltu â'u tenantiaid i lunio eu rhaglen waith. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord gyhoeddi datganiad cydymffurfio blynyddol ac mae ymgysylltu â thenantiaid yn un o’r meysydd y mae’n ofynnol iddynt adrodd arnynt.
Felly, beth mae eich sefydliad yn ei wneud i ymgysylltu â thenantiaid a beth mae wedi'i gynllunio?
Beth mae sefydliadau eraill yn ei wneud?
Byddwch yn rhan o'n Rhwydwaith Staff nesaf gan ganolbwyntio ar SATC ac Ymgysylltu â Thenantiaid.
Sesiwn rhwydwaith yw hon i’ch galluogi i rannu arfer, meddyliau a syniadau, gofyn cwestiynau a rhannu ymagweddau ac ymarfer gyda’r cynrychiolwyr eraill sy’n bresennol.
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r sesiwn wedi'i chynllunio ar gyfer pawb sy'n ymwneud ag Ymgysylltu â Thenantiaid yn SATC gan gynnwys staff sy'n gyfrifol am y strategaeth a gweithredu'r safonau; staff sy'n arwain ar Swyddogion Ymgysylltu â Thenantiaid a Chyswllt Tenantiaid.
Cost:
Mae’r sesiwn am ddim ac yn arbennig ar gyfer staff o aelod-sefydliadau TPAS Cymru.
Pethau i'w wybod:
-
Gweithdy ar-lein dros Zoom fydd hon
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Archebwch eich lle drwyr ddolen Zoom yma
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Staff – SATC23 ac Ymgysylltu â Thenantiaid
Dyddiad
Dydd Mawrth
07
Ionawr
2025, 13:00 - 14:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 07 Ionawr 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad