Dydd Llun, 31 Mawrth 2025:11:00am - 12:00pm
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ôl-drafodaeth amserol hon ar yr hyn sydd bwysicaf i denantiaid yn 2025.
Mae ein Pumed Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan wedi dal lleisiau dros 600 o denantiaid ledled Cymru, gan roi darlun o’u blaenoriaethau a’u pryderon ynghylch effeithlonrwydd ynni a chynhesrwydd fforddiadwy.
Bydd y sesiwn rhad ac am ddim hon yn rhannu mewnwelediadau allweddol o'r arolwg, gan amlygu'r hyn y mae tenantiaid ei angen ac yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr tai.
Gyda Safonau Ansawdd Tai Cymru a’r nod o greu cartrefi ynni-effeithlon, mae gwrando ar denantiaid yn bwysicach nag erioed. Byddwch ymhlith y cyntaf i glywed yn uniongyrchol gan denantiaid ledled Cymru am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddynt yn eu cartrefi a'u cymunedau.
Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio ym maes tai a thenantiaid, ynghyd â gweithwyr proffesiynol yn y sector tai.
Mae hwn yn ddigwyddiad unigryw i aelodau TPAS Cymru ac mae lleoedd yn gyfyngedig ac yn sicr o fynd yn gyflym - felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle heddiw gan ei fod yn ddigwyddiad nad fyddwch eisiau ei golli.
Mae'r digwyddiad hwn yn RHAD AC AM DDIM i aelodau TPAS Cymru!
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma
Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Pumed PwlsTenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan: Ôl-drafodaeth ar Effeithlonrwydd Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy
Dyddiad
Dydd Llun
31
Mawrth
2025, 11:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Llun 31 Mawrth 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Akshita Lakhiwal
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad