Sesiwn gweithdy wedi'i ddiweddaru
Dydd Iau, 20 Mawrth 2025: 10am – 12pm
Gan ddefnyddio mewnwelediad gan Denantiaid ac arfer da diweddaraf y sector, byddwn yn archwilio dulliau gwasanaeth cwsmeriaid ymarferol i helpu sefydliadau i ymateb yn gadarnhaol, yn rhagweithiol a chydag empathi i bryderon tenantiaid ynghylch lleithder a llwydni.
Yn ystod y sesiwn byddwn yn canolbwyntio ar ddysgu o achosion lle nad yw landlordiaid wedi ymdrin yn briodol â lleithder a llwydni. Byddwn hefyd yn ystyried pa gymorth a chamau gweithredu sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth cefnogol, cynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bob tenant.
Bydd hon yn sesiwn addysgiadol a rhyngweithiol a bydd y meysydd yr ymdrinnir â hwy yn cynnwys:
-
cyd-destun sector
-
deall pwy sydd fwyaf mewn perygl o gael problemau iechyd oherwydd lleithder a llwydni.
-
pwysigrwydd cyfathrebu clir, gan gynnwys empathi a naws.
-
casglu'r wybodaeth gywir i ymateb yn briodol.
-
‘cymryd perchnogaeth’
-
cymryd camau rhagataliol a datrys problemau yn rhagweithiol
Nod y sesiwn
Mae'r sesiwn wedi'i chynllunio i ysgogi meddwl ac i roi dulliau i gynrychiolwyr y gallant eu datblygu ymhellach a'u cymhwyso yn eu gwaith.
Beth na fydd yn cael ei gynnwys?
Noder – ni fydd y sesiwn yn cynwwys y canlynol:
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn – mae’r sesiwn gweithdy hwn ar gyfer staff sy’n ymwneud â meysydd fel: rheoli asedau, atgyweirio, Rheoli Tai, cymorth tenantiaeth, gwasanaeth cwsmeriaid, ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau.
Cost
-
Tenantiaid: £29+TAW
-
Staff/Bwrdd(aelodau): £59+TAW
-
Pawb arall: £119+TAW
Pethau i'w gwybod:
-
Gweithdy hyfforddi rhyngweithiol ar-lein yw hwn trwy Zoom
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
-
Mae'r gyfradd cynrychiolwyr ar gyfer un person nid archeb grŵp - mae angen i bob mynychwr gofrestru'n unigol
Noder - Mae lleoedd yn brin ar gyfer y sesiwn hon felly fe'ch cynghorir chi i archebu'n gynnar drwy'r ddolen Zoom yma
Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Lleithder a Llwydni – cael y gwasanaeth a'r gefnogaeth yn iawn i Denantiaid
Dyddiad
Dydd Iau
20
Mawrth
2025, 10:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 19 Mawrth 2025
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Helen Williams
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad