Dydd Llun 9 Rhagfyr 2024: 1pm - 2pm
Mae ein hadroddiadau Pwls Tenantiaid yn cynnig cipolwg ar feddyliau a chanfyddiadau tenantiaid ledled Cymru ac mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu hynny. Mae ein Pedwerydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol yn adlewyrchu lleisiau tenantiaid ym mhob sir yng Nghymru ac o ystod eang o gefndiroedd.
Credwn fod y canfyddiadau a'r argymhellion yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr heriau y mae tenantiaid yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut mae tenantiaid yn teimlo ac yn ymateb i'r argyfyngau presennol o ran costau byw, ynni a fforddiadwyedd.
Pwls Tenantiaid iyw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cafodd ei greu 6 mlynedd yn ôl gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol
(Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat a'r rhai mewn tai â chymorth
.
Os ydych chi'n denant, pam ddim ymuno â'n panel Pwls Tenantiaid i gael dweud eich dweud?
Cofrestrwch yma ar gfer ein sesiwn friffio amser cinio: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZApc-ChqToqHdBogvOcjFnk_8sj3zO_HYGN
Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
LANSIAD ein Pedwerydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan – Tai sy’n Gweithio: Ymagwedd at welliant a yrrir gan denantiaid
Dyddiad
Dydd Llun
09
Rhagfyr
2024, 13:00 - 14:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Elizabeth Taylor
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad