Dydd Mawrth 26 Tachwedd: 10.30 – 12.30pm
Gall gwneud yn siŵr ein bod yn clywed gan bob tenant fod yn her wirioneddol! Mae sut rydych chi’n clywed eu barn, eu pryderon a’u cwestiynau yn hollbwysig – yn enwedig y tenantiaid hynny sy’n aml yn cael eu ‘hesgeuluso’.
Felly unwaith eto, mae TPAS (Lloegr), TPAS Yr Alban, TPAS Cymru a Cefnogi Cymunedau o Ogledd Iwerddon, wedi dod at ein gilydd i gyflwyno’r gweithdy ar-lein cyffrous, addysgiadol a rhyngweithiol hwn sy’n rhannu arfer da o’r pedair gwlad.
TPAS yr Alban: Yr hyd yr awn i gyrraedd ein cymunedau gwledig i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Archwilio’r heriau a’r newidiadau i ymgysylltu gwledig a sut rydym yn goresgyn pellter i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol ar gyfer cyfranogiad. O fferi, hedfan a gyrru milltiroedd lawer i gysylltu a dod at ein gilydd o'n cartrefi. Mae tirwedd ymgysylltu gwledig wedi newid, sut mae gwneud yn siŵr ein bod yn mynd â’n tenantiaid gyda ni? Adeiladu rhwydwaith o denantiaid gwybodus ac ymgysylltiedig i helpu i lywio newid cadarnhaol.
Gogledd Iwerddon:
Byddwn yn edrych ar sut mae Cefnogi Cymunedau, yn ogystal â sefydliadau eraill wedi ymgysylltu â thrigolion a chwsmeriaid yn ddigidol i gynyddu dylanwad a meithrin grymuso. Byddwn yn archwilio sut y gall cael gwahanol safbwyntiau trwy lwyfannau digidol ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth, ac yn ei dro, sut y gellir defnyddio hyn i wella gwasanaethau. Mae defnyddio dulliau digidol i ddal persbectif y rhai nad ydynt efallai wedi ymgysylltu yn dod â heriau a byddwn yn trafod pa brosesau y mae sefydliadau wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod llais yn cael ei roi ac yn bwysig, yn cael ei glywed.
TPAS Lloegr
A yw tenantiaid o leiafrifoedd ethnig yn cael eu clywed yn wirioneddol gan ddarparwyr tai, neu a yw eu lleisiau'n cael eu gadael allan o'r sgwrs? Ymunwch â Kai Jackson, eiriolwr tenantiaid uchel ei pharch, ac Aelod Cysylltiol TPAS Lloegr, ac awdur yr ymchwil arloesol sydd i’w gyhoeddi’n fuan., "Diverse Voices: Is There a Seat at the Table?" wrth iddi archwilio:
-
Rhai o'r materion allweddol y mae tenantiaid o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu wrth ymgysylltu â Darparwyr Tai
-
Beth ddylai staff tai fod yn ei wneud i ymgysylltu'n effeithiol â chymunedau amrywiol.
Mae cyflwyniad Kai yn berffaith ar gyfer darparwyr tai, cynrychiolwyr tenantiaid, ac unrhyw un sy’n angerddol am amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwch yn gadael wedi’ch ysbrydoli gan syniadau ymarferol i greu cymuned tenantiaid fwy cynhwysol ac ymgysylltiol.
Adran Tai Cyngor Sir Penfro
Clywch gan Natalie Badham o Adran Tai Cyngor Sir Penfro am eu Fforwm Ieuenctid Tai a Digartrefedd llwyddiannus, rhaglen sy’n cynnwys tenantiaid ifanc sy’n defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r fenter wedi galluogi tenantiaid ifanc i gael dweud eu dweud wrth lunio gwasanaethau ar draws y sefydliad mewn meysydd fel adolygu'r cais Cartrefi Dewisol, y Llawlyfr Tenantiaid a ffyrdd y gallwn wneud ein gwasanaeth yn fwy cynhwysol. Bydd Natalie yn rhannu: Beth weithiodd? Beth sydd wedi newid a Beth sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed
Pwy ddylai fynychu?
Tenantiaid, staff, Aelodau Bwrdd, Aelodau ALl, Uwch Reolwyr ac unrhyw un mewn tai cymdeithasol sy’n awyddus i sicrhau bod lleisiau’r holl denantiaid yn cael eu clywed.
Cost
Am ddim i aelodau o: Cefnogi Cymunedau (Gogledd Iwerddon), TPAS Cymru, Tpas Lloegr, TPAS yr Alban
Pethau i'w gwybod
-
Gweithdy ar-lein dros Zoom fydd hon
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Grymuso Pob Llais: Dulliau o Ymgysylltiad Cynhwysol
Dyddiad
Dydd Mawrth
26
Tachwedd
2024, 10:30 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
25 Tachwedd 2024
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad