Dewch draw i ddarganfod beth sy'n digwydd gyda rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru a rhannu eich barn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n arwain y gwaith pwysig hwn.

Fforwm Llais Tenantiaid Cymru – Sut y dylai landlordiaid cymdeithasol osod eu rhenti

Dydd Mercher 15 Ionawr 2025: 10.30am – 12.00pm

Dewch draw i ddarganfod beth sy'n digwydd gyda rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru a rhannu eich barn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n arwain y gwaith pwysig hwn.

Mae Llywodraeth Cymru (LlC) ar hyn o bryd yn adolygu eu Polisi Rhenti sy’n arwain sut mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru osod y rhenti y maent yn eu codi. Mae'n bwysig bod tenantiaid tai cymdeithasol yn cael cyfleoedd i gyfrannu at yr adolygiad hwn. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd rydym wedi gwahodd Repa Antonio o Lywodraeth Cymru i Fforwm Llais Tenantiaid Cymru ym mis Ionawr. Mae Repa yn arwain ar y gwaith pwysig hwn a bydd yn rhannu’r hyn sy’n digwydd ac i glywed unrhyw syniadau sydd gennych i’w bwydo i mewn i ddatblygiad Polisi Rhent newydd LlC.  

Dywedodd Repa: Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i glywed yn uniongyrchol gan denantiaid am eu meddyliau, eu barn a'u profiadau ar y pwnc pwysig hwn.”

Rhywfaint o gefndir gosod rhent cymdeithasol yng Nghymru

Yng Nghymru, mae angen i bob landlord cymdeithasol gadw at Safon Rhenti Tai Cymdeithasol a Thaliadau Gwasanaeth (Safon Rhent a Thâl Gwasanaeth) Llywodraeth Cymru wrth bennu eu rhenti. Mae’r safon hon yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid edrych ar fforddiadwyedd i Denantiaid, a sut mae landlordiaid yn ymgysylltu ac yn ymgynghori’n effeithiol â thenantiaid wrth osod rhenti.

Mae’r Safon bresennol yn ei lle hyd at 31 Mawrth 2026, felly mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithio i edrych ar ddatblygu safon rhent cymdeithasol clir a chadarnach ar gyfer y dyfodol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y polisi rhenti cymdeithasol yn y dyfodol yn adlewyrchu cyd-destun tai Cymru ac yn cydbwyso anghenion landlordiaid cymdeithasol a’u tenantiaid presennol a’u tenantiaid yn y dyfodol, heddiw ac yn y dyfodol.

Pwy ddylai fynychu?

Tenantiaid

Cost

Rhad ac am ddim i denantiaid cymdeithasol

Pethau i'w gwybod:
  • Gweithdy ar-lein dros Zoom yw hon
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma

 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Fforwm Llais Tenantiaid Cymru – Sut y dylai landlordiaid cymdeithasol osod eu rhenti

Dyddiad

Dydd Mercher 15 Ionawr 2025, 10:30 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X