Dylanwadu ar sut mae Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn cael eu Rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru
Dydd Iau 20 Chwefror 2025: 11am – 12:30pm
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dylanwadu ar y ffordd mae Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio neu ond eisiau darganfod mwy am y pwnc?
Mae Cymdeithasau Tai yng Nghymru (a elwir hefyd yn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu LCC) yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn darparu cartrefi o ansawdd da a gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n gwella i denantiaid ac eraill sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Mae sut mae rheoleiddio'n gweithio wedi'i nodi yn y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi'u Cofrestru yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar ddiwygiadau i’r Safonau Rheoleiddiol sy’n rhan allweddol o’r Fframwaith Rheoleiddio..
Y Safonau Rheoleiddio yw'r safonau y mae'n ofynnol i RSLs gydymffurfio â hwy, a bydd y rheolydd yn defnyddio'r safonau i asesu i ba raddau y gall pob LCC ddangos bod y safonau'n cael eu bodloni. Mae'r Safonau'n ymdrin â meysydd pwysig megis gwasanaethau y mae Tenantiaid yn eu derbyn, a sut mae landlordiaid yn cynnwys tenantiaid.
Er mwyn helpu i gyfrannu barn tenantiaid a’n haelodau, rydym wedi gwahodd swyddogion o Dîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru i’r Fforwm Llais Tenantiaid Cymru hwn. Byddant yn rhannu manylion y newidiadau arfaethedig a'r hyn y mae'r newidiadau yn anelu at ei gyflawni.
Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y sesiwn ar-lein hon - nid oes angen i fynychwyr fod yn arbenigwyr yng ngwaith y Fframwaith Rheoleiddio!
Pwy ddylai fynychu? Tenantiaid Tai Cymdeithasol yng Nghymru
Cost: Rhag ac am ddim i denantiaid
Pethau i'w gwybod:
-
Sesiwn ar-lein dros Zoom fydd hon
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.
Hawl TPAS Cymru i ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os felly, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Os byddwn yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Fforwm Llais Tenantiaid Cymru: Rheoleiddio Cymdeithasau Tai
Dyddiad
Dydd Iau
20
Chwefror
2025, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 20 Chwefror 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Tenantiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad