Yn Galw Tenantiaid yng Nghymru! – mae croeso i bawb yn ein Fforwm Llais Tenantiaid Cymru nesaf

Fforwm Llais Tenantiaid Cymru mis Chwefror

Dydd Mawrth 11 Chwefror, 10am-11:30am

Yn Galw Tenantiaid yng Nghymru! – mae croeso i bawb yn ein Fforwm Llais Tenantiaid Cymru nesaf.

Mae ein fforymau ar-lein anffurfiol ar Zoom yn gyfle gwych i denantiaid o bob rhan o Gymru glywed gan rai o’r prif benderfynwyr tai a rhoi eu barn iddynt. Mae croeso i chi wrando, arsylwi neu ymuno â rhai o'r trafodaethau.  

Mae'r Rhwydwaith hwn yn rhan o'n cydweithrediad cyffrous gyda'r Comisiwn Etholiadol. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn ymuno â ni i drafod a rhannu safbwyntiau ar sut y gallwn gefnogi staff a thenantiaid i siarad am ddemocratiaeth, pwnc pwysig yn arwain at Etholiadau’r Senedd yn 2026.

Os nad ydych erioed wedi bod i sesiwn o'r blaen beth am roi cynnig arni? Bydd croeso mawr i chi, a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno! Os hoffech ragor o wybodaeth am y sesiwn cysylltwch ag Eleanor Speer a fydd yn hapus i helpu. Ei e-bost yw [email protected]

Pwy ddylai fynychu?

Tenantiaid

Cost   

Rhad ac am ddim i denantiaid

Pethau i'w gwybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom fydd hwn
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Fforwm Llais Tenantiaid Cymru mis Chwefror

Dyddiad

Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025, 10:00 - 11:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X