Byddwch yn rhan o’r sesiwn bwysig hon i Denantiaid tai cymdeithasol gael gwybod am, a dylanwadu, ar gynnig Llywodraeth Cymru i wella diogelwch cartrefi

 

Fforwm Llais Tenantiaid Cymru: Dylanwadu ar sut mae landlordiaid tai cymdeithasol yn ymateb i leithder, llwydni a pheryglon eraill mewn cartrefi

Dydd Iau 8 Mai 2025: 11am – 12:30pm

Byddwch yn rhan o’r sesiwn bwysig hon i Denantiaid tai cymdeithasol gael gwybod am, a dylanwadu, ar gynnig Llywodraeth Cymru i wella diogelwch cartrefi.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnig i gyflwyno rheol newydd mewn perthynas â sut mae landlordiaid cymdeithasol yn ymateb i leithder, llwydni a pheryglon eraill mewn cartrefi. Y bwriad yw y bydd y rheol yn sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yn cymryd camau prydlon ac effeithiol ar beryglon yn y cartref, gan gynnwys lleithder a llwydni, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi amseroedd ymateb ac adrodd ar eu perfformiad.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth yw barn Tenantiaid am y cynnig. Er mwyn helpu i gyflwyno barn tenantiaid, mae TPAS Cymru wedi gwahodd swyddogion o Dîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru i’n Fforwm Llais Tenantiaid Cymru nesaf. Byddant yn rhannu manylion y cynigion a'r hyn y mae'r cynigion yn anelu at ei gyflawni.

Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y sesiwn ar-lein hon.

Ni ddylai neb fyth orfod dioddef canlyniadau dinistriol byw mewn amgylchedd sy’n bygwth eu hiechyd a’u lles felly dewch draw i ddarganfod mwy am gynlluniau pellach i sicrhau amodau byw diogel ac iach i bob tenant.

Pwy ddylai fynychu? Tenantiaid landlordiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai, Awdurdodau Lleol)

Rhad ac am ddim i denantiaid fynychu

Pethau i'w gwybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom yw hwn
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook
 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Fforwm Llais Tenantiaid Cymru: Dylanwadu ar sut mae landlordiaid tai cymdeithasol yn ymateb i leithder, llwydni a pheryglon eraill mewn cartrefi

Dyddiad

Dydd Iau 08 Mai 2025, 11:00 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mercher 07 Mai 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

AGOS X