Dydd Mawrth18 Chwefror: 12.30 pm - 1.30pm
Mae diwygio perfformiad ynni newydd ar y gweill, gan ddod â newidiadau i'r ffordd y caiff adeiladau eu hasesu, eu hadrodd a'u rheoleiddio. Bydd y diweddariadau hyn yn effeithio ar ddarparwyr tai, landlordiaid, a rheolwyr asedau, gan ddylanwadu ar bopeth o gyfraddau Tystysgrif Perfformiad Ynni i nodau cydymffurfio a chynaliadwyedd.
Gwyddom y gall dogfennau polisi fod yn gymhleth—felly rydym wedi trefnu’r digwyddiad hwn a siaradwr gwych i helpu i wneud synnwyr o’r ymgynghoriad, fel nad oes gennych chi’r gwaith o’i weithio allan ar eich pen eich hun.
Ymunwch â ni am sesiwn â ffocws gyda’n siaradwr, Fay Holland, Uwch Gynghorydd Polisi Ynni – Datgarboneiddio Gwres ac Ynni Lleol yn Energy Systems Catapult.
Yn y sessiwn, fe fyddwn yn:
✅ Dadansoddi'r newidiadau allweddol a'r hyn y maent yn ei olygu i'ch sefydliad.
✅ Trafod yr angen am ddiwygiad EPC.
✅ Helpu chi i lunio ymateb clir a gwybodus.
Bydd y diwygiadau hyn yn llywio dyfodol effeithlonrwydd ynni mewn tai. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i chi aros yn wybodus ac ymgysylltu.
Pwy ddylai fynychu?
Swyddogion tai, arweinwyr cynaliadwyedd, rheolwyr asedau, ac unrhyw un sy'n gweithio gydag EPCs a rheoliadau perfformiad ynni. Er bod croeso i denantiaid, mae hon yn fwy o drafodaeth dechnegol i'r rhai 'yn y fasnach'.
Cost
Rhad ac am ddim
Pethau i'w gwybod:
-
Gweithdy ar-lein dros Zoom yw hon
-
Bydd y sesiwn yn cael ei recordio
Os nad ydych erioed wedi bod i sesiwn o'r blaen beth am roi cynnig arni? Bydd croeso mawr i chi, a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno! Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Akshita drwy [email protected] – a fydd yn hapus i'ch helpu.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Diwygio EPC: Beth Sy'n Newid a Pam Mae'n Bwysig
Dyddiad
Dydd Mawrth
18
Chwefror
2025, 12:30 - 13:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad