Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad ar-lein TPAS Cymru i gydnabod Diwrnod Rhyngwladol Tenantiaid 2024, diwrnod byd arbennig i denantiaid

Diwrnod Rhyngwladol Tenantiaid 2024

Dydd Llun 7 Hydref,  1pm-2.30pm

Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad ar-lein TPAS Cymru i gydnabod Diwrnod Rhyngwladol Tenantiaid 2024, diwrnod byd arbennig i denantiaid. 

Mae TPAS Cymru wedi trefnu digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim ar Ddiwrnod Rhyngwladol Tenantiaid i chi ddathlu a chwrdd â sefydliadau tenantiaid o rannau eraill o’r byd.  

Mae ein siaradwyr yn cynnwys: 

Carl-Johan Bergström, prif drafodwr yn Undeb y Tenantiaid yn Sweden.
Mae gan undeb tenantiaid Sweden tua 500 000 o aelodau ac mae'n negodi'r rhenti ar gyfer tua 3,000,000 o denantiaid mewn 1,500,000 o eiddo
 
Maja Staleska,  Llywydd y Sefydliad Tai a Thenantiaid yng Ngogledd Macedonia.
Mae Maja a'i sefydliad tenantiaid yn ymgyrchu dros hawliau tenantiaid yng ngogledd Macedonia.
 
Dave Maher, tenant a Chadeirydd Cefnogi Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon 
Mae Dave yn actifydd tenantiaid a bydd yn adrodd ei stori a aeth ag ef drwy gyfnod heriol i fod yn Gadeirydd Cefnogi Cymunedau nawr
 

Pwy ddylai fynychu?

Mae'r digwyddiad yn addas ar gyfer tenantiaid a staff tai

Gallwch archebu eich lle AM DDIM trwy'r ddolen yma

Byddwn wrth ein bodd gweld chi.

Gwybodaeth gefndirol

Sefydlwyd y dydd Llun cyntaf ym mis Hydref ym 1986 fel diwrnod byd-eang i denantiaid gan Undeb Rhyngwladol y Tenantiaid (IUT). Mae’r IUT yn sefydliad aelodaeth anllywodraethol a dielw ar gyfer sefydliadau tenantiaid byd-eang. Sefydlwyd IUT yn 1926 yn Zürich, y Swistir. Bellach mae ganddyn nhw 74 o sefydliadau sy'n aelodau mewn 51 gwlad

https://www.iut.nu/events/international-tenants-day/

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Diwrnod Rhyngwladol Tenantiaid 2024

Dyddiad

Dydd Llun 07 Hydref 2024, 13:00 - 14:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Llun 07 Hydref 2024

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

AGOS X