*Gweithdy wedi'i ailadrodd ar gyfer y rhai na allant fynychu'r gweithdy ar 19 Chwefror*
Dros y tri mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiwn Etholiadol i glywed barn a phrofiadau’r sector gyda democratiaeth a phleidleisio. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda thenantiaid, staff, y trydydd sector, a phartneriaid i gynyddu hyder tenantiaid i gymryd rhan mewn etholiadau.
Nawr ein bod wedi clywed eich barn, rydym yn barod i weithredu fel sector. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn gweithdy ar-lein hwn i ddysgu mwy am sut y gallech fod yn siarad am ddemocratiaeth yn eich cymuned.