This session is now full
Dydd Iau 9 Mai 2024: 10.00am – 12.30pm
Bydd y Cyflwyniad hwn i Ddatblygu Cymunedol ar Sail Asedau (ABCD) yn rhoi trosolwg o ABCD a'r amcanion canlynol:
-
I ddeall pam fod angen i ni newid y ffordd rydym yn gweithio gyda phobl a chymunedau
-
I’n cyflwyno i’r cwestiynau allweddol y mae ABCD yn gofyn i ni eu cynnig wrth weithio mewn cymunedau
-
I gael rhagflas o rai o’r cwestiynau allweddol hyn a sut y gallent fod yn berthnasol yn ein bywydau a’n cymunedau
-
I weld rhai enghreifftiau ymarferol ar waith
-
Myfyrdodau terfynol a chamau i'w cymryd
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn cael ei gyflwyno gan Gydymaith TPAS Cymru Mark John Williams sydd wedi gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol ers canol yr 1980au ac sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar Raglen Trawsnewid Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru. Sefydlodd Mark hefyd Gwmni Buddiant Cymunedol a Chydweithredol o’r enw Flintshire DO-IT, lle mae’n gweithio ochr yn ochr ag aelodau cyffredin o’r gymuned a gweithwyr proffesiynol, i gymhwyso ystod eang o Ddulliau ar Sail Asedau, gan ddefnyddio egwyddorion Cydgynhyrchu.
Pwy ddyli fynychu?
Tenantiaid, Staff, Uwch Reolwr, Aelodau Bwrdd, Aelodau ALl sydd â diddordeb mewn dysgu am ABCD a'i fanteision mewn tai cymdeithasol.
Cost
-
Tenantiaid: £29 +TAW
-
Staff/Bwrdd (aelodau): £59 + TAW
-
Pawb Arall: £110 + TAW
Pethau i'w Gwybod:
-
Sesiwn ar-lein dros Zoom fydd hwn
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
This session is now full
Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cyflwyniad i Ddatblygu Cymunedol ar Sail Asedau (ABCD)
Dyddiad
Dydd Iau
09
Mai
2024, 10:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 07 Mai 2024
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad