Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn cael ei gyflwyno gan Gydymaith TPAS Cymru, Mark John Williams

Cyflwyniad i Ddatblygu Cymunedol ar Sail Asedau

Dydd Mercher 5 Chwefror 2025: 1.30pm – 4.00pm

Bydd y Cyflwyniad hwn i Ddatblygu Cymunedol ar Sail Asedau (ABCD) yn rhoi trosolwg i chi o ABCD a'r amcanion canlynol:

  • Deall pam fod angen i ni newid y ffordd rydym yn gweithio gyda phobl a chymunedau
  • I’n cyflwyno i’r cwestiynau allweddol y mae ABCD yn gofyn i ni eu cynnig wrth weithio mewn cymunedau
  • I gael rhagflas o rai o’r cwestiynau allweddol hyn a sut y gallent fod yn berthnasol yn ein bywydau a’n cymunedau
  • I weld rhai enghreifftiau ymarferol ar waith
  • Myfyrdodau terfynol a chamau i'w cymryd

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn cael ei gyflwyno gan Gydymaith TPAS Cymru, Mark John Williams sydd wedi gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol ers canol yr 1980au ac sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar Raglen Trawsnewid Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru. Sefydlodd Mark hefyd Gwmni Buddiant Cymunedol a Chydweithredol o’r enw Flintshire DO-IT, lle mae’n gweithio ochr yn ochr ag aelodau cyffredin o’r gymuned a gweithwyr proffesiynol, i gymhwyso ystod eang o Ddulliau ar Sail Asedau, gan ddefnyddio egwyddorion Cydgynhyrchu.

Pwy ddylai fynychu?

Tenantiaid, Staff, Uwch Reolwr, Aelodau Bwrdd, Aelodau ALl sydd â diddordeb mewn dysgu am ABCD a'i fanteision mewn tai cymdeithasol.

Cost
  • Tenantiaid: £29 +TAW
  • Staff/Bwrdd (aelodau):  £59 + TAW
  • Pawb Arall:  £110 + TAW
Pethau i'w gwybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom fydd hon
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
 

Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cyflwyniad i Ddatblygu Cymunedol ar Sail Asedau

Dyddiad

Dydd Mercher 05 Chwefror 2025, 13:30 - 16:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 04 Chwefror 2025

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X
Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi