Byddwch yn rhan o’r sesiwn addysgiadol newydd hon i ddarganfod sut y gall defnyddio dulliau cyd-greu ar gyfer ymgysylltu â thenantiaid wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Cyd-greu ar gyfer ymgysylltu â thenantiaid: gwneud iddo weithio

Dydd Iau 1 Mai: 10.00am – 12.00pm

Byddwch yn rhan o’r sesiwn addysgiadol newydd hon i ddarganfod sut y gall defnyddio dulliau cyd-greu ar gyfer ymgysylltu â thenantiaid wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy breswylwyr a staff landlordiaid yn cydweithio i greu gwasanaethau sy’n gweithio orau i bawb.

Darganfyddwch gan ein siaradwyr arbenigol o bob rhan o’r DU sut mae eu sefydliadau landlordiaid yn defnyddio cyd-greu i wella gwasanaethau, meithrin ymddiriedaeth ac ymgysylltu â thenantiaid nad ydynt wedi cymryd rhan o’r blaen.

Byddwn hefyd yn archwilio sut y gall cyd-greu helpu landlordiaid i ymateb i’r materion polisi a’r heriau diweddaraf mewn tai cymdeithasol yng Nghymru, megis gweithredu SATC, fforddiadwyedd rhent a diogelwch adeiladau ac wrth fodloni safonau rheoleiddio..

Mae siaradwyr arbenigol yn cynnwys:

Bydd Rachel Edwards, arweinydd Cyd-greu ac Ymgysylltu yn Platfform, yn dweud wrthym pam mae Platform wedi cyflwyno Cyd-greu i’w cyfleoedd ymgysylltu â chwsmeriaid, sut maen nhw’n cynnwys cwsmeriaid yn y broses o ddatblygu gwasanaethau o’r cychwyn cyntaf, sut mae cyd-greu yn gweithio’n ymarferol a sut mae wedi helpu i newid diwylliant y sefydliad. 

 

 

Clywch gan Lizzie Brown o gartrefi Greatwell am sut y maent yn rhoi Cyd-greu a Chydweithio wrth wraidd popeth a wnânt. Darganfod sut maent yn dod â staff a thenantiaid at ei gilydd gan ddefnyddio dulliau cyd-greu i wella gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaeth atgyweirio

 
 
Cost    
  • Tenantiaid: RHAD AC AM DDIM
  • Staff/Bwrdd (aelod sefydliadau): £39+TAW
  • Staff/Bwrdd (dim yn aelodau): £79+TAW
Pethau i'w wybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom yw hwn
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom hon

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.


Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cyd-greu ar gyfer ymgysylltu â thenantiaid: gwneud iddo weithio

Dyddiad

Dydd Iau 01 Mai 2025, 10:00 - 12:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Iau 01 Mai 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X