Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon

 

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon

Noder: mae hon yn rôl lle mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol

Pwy ydyn ni?
Sefydliad dielw yw TPAS Cymru, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Ers 35 mlynedd, rydym wedi gweithio ledled Cymru i ddatblygu ymgysylltu effeithiol â thenantiaid a llais tenantiaid ym maes tai drwy hyfforddiant, cymorth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Rydyn ni'n caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n falch o'n gwaith.

Cefndir y rôl hon

Ledled Cymru, mae 222,000 o aelwydydd tai cymdeithasol (tai Cyngor a Chymdeithasau Tai) a 230,000 o rentwyr preifat.

Yn TPAS Cymru, rydym eisiau i lais a phrofiadau tenantiaid fod wrth wraidd cynlluniau a chael eu clywed wrth wneud penderfyniadau yn lleol ac ar lefel genedlaethol.

Swyddog Ymgysylltu

Byddwch yn datblygu, yn trefnu ac yn cyflwyno digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb gan gynnwys hyfforddiant a sesiynau briffio, byddwch yn cynnal digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, grwpiau ffocws, ac yn dylanwadu ar landlordiaid a’r Llywodraeth. Mae angen i chi fod yn hyderus yn gweithio gydag ystod eang o bobl a chymunedau amrywiol yng Nghymru.

Math o gytundeb: Parhaol 
Oriau:  21 awr yr wythnos
Cyflog:   £21,420 am 21 awr yr wythnos 
+ dyfarniad cyflog blynyddol y sefydliad cyfan i'w gytuno a'i ôl-ddyddio i 1 Ebrill (Er gwybodaeth, y cyfwerth ag amser llawn fyddai £35,700)

Lleoliad:  Cartref/swyddfa hybrid ac allan gydag aelodau - wedi'i leoli o'n swyddfa ym Mae Colwyn gyda pheth teithio ledled Cymru.

Mae gennym lwfans gwyliau da iawn, cyfraniad pensiwn o 5%, yswiriant bywyd grŵp, diwylliant moesegol.

Mae TPAS Cymru yn sefydliad Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Rydym yn cefnogi ac yn annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.

Poeni nad ydych chi'n bodloni'r holl feini prawf? Gwnewch gais beth bynnag!!

Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud cais am swydd fel hon, oherwydd eu bod yn teimlo nad ydynt yn bodloni pob rhan o'r disgrifiad swydd. Nid pobl ticio blychau ydyn ni, rydyn ni eisiau gwybod beth allwch chi ei gynnig, nid yr hyn nad oes gennych chi, a dylai eich cais adlewyrchu hynny. Os oes gennych chi'r agwedd gywir a'r sgiliau sylfaenol, rydyn ni'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ddatblygu i'r rôl.

Dyma'r Swydd Ddisgrifiad a manylion am y rôl hon

Yn ogystal, dyma drosolwg o'r hyn y mae'r rôl yn ei olygu fel arfer

DYDDIADAU ALLWEDDOL
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: canol dydd, Dydd Mawrth, 6ed o Fai
  • Dyddiad cyfweliad:  w/c 19 Mai

Diddordeb?  Yn gyntaf, darllenwch y disgrifiad swydd uchod, a chynghorwn yn gryf eich bod yn darllen y nodyn trosolwg ategol ynghylch sut beth yw'r rôl. Hefyd edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol, gwefan a sianel YouTube am wybodaeth am ein gwaith. Dysgwch fwy am bwy ydym ni a beth rydyn ni’n credu ynddo.

Barod i ymgeisio?

  1. Lawr lwythwch y ffurflen gais ffurflen cyfleoedd cyfartal.
  2. Anfonwch y ddau yn ôl gyda CV i [email protected] erbyn canol dydd, Dydd Mawrth 6ed o Fai

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod y rôl yn fwy manwl, rydym yn barod i sgwrsio. Gyrrwch e-bost atom [email protected] a threfnwch amser ar gyfer galwad.  

Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.