Byddwch yn rhan o Gynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru – rydym wedi trefnu ystod wych o siaradwyr gwadd a sesiynau gweithdy cyffrous i chi, y cyfan yn canolbwyntio ar y materion tai, cymunedol ac ymgysylltu â thenantiaid diweddaraf.

Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru 2024

Cartrefi - Cymunedau - Llais y Tenant

Dydd Mercher 13 a Dydd Iau 14 Tachwedd 2024

(Mae'r opsiwn pecyn cyflawn yn cynnwys arhosiad ychwanegol dros nos ddydd Mawrth 12 Tachwedd)

 

Byddwch yn rhan o Gynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru – rydym wedi trefnu ystod wych o siaradwyr gwadd a sesiynau gweithdy cyffrous i chi, y cyfan yn canolbwyntio ar y materion tai, cymunedol ac ymgysylltu â thenantiaid diweddaraf.

Beth ydyw? 

Ein cynhadledd ymgysylltu genedlaethol hanfodol yw’r man lle mae pawb: tenantiaid, staff a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cyfarfod i ddarganfod a thrafod y materion tai a chymunedol mawr diweddaraf, dysgu o arfer da ac archwilio syniadau ac atebion. 

Pam ddyliwn i fynychu?

Bydd yr rhaglen orlawn yn cynnwys siaradwyr ysbrydoledig ac astudiaethau achos ymarferol go iawn Byddwch hefyd yn gallu dewis o ystod gyffrous o sesiynau gweithdy, a bydd digon o amser i sgwrsio a rhwydweithio ag eraill sy'n mynychu a rhannu syniadau. Bydd y digwyddiad hwn yn ysgogi, yn ysbrydoli ac yn hysbysu pawb sy'n mynychu - felly ni fyddwch eisiau colli allan!

Pwy ddylai fynychu? 

Mae'r digwyddiad hwn yn hanfodol i landlordiaid cymdeithasol, tenantiaid, preswylwyr, sefydliadau trydydd sector a grwpiau gwirfoddol. Ymunwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn tai yng Nghymru, datblygu cymunedol, llais tenantiaid ac ymgysylltu neu ddyfodol cartrefi yng Nghymru - archebwch eich lle nawr.

Sut gallaf sicrhau lle?

Mae'r digwyddiad poblogaidd hwn yn gwerthu allan bob blwyddyn!  Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle. I archebu, defnyddiwch y ddolen ffurflen archebu isod. Hefyd, cysylltwch os oes gennych unrhyw ymholiadau am archebu llety preswyl. Rydym wastad yn hapus i helpu

Bydd uchafbwyntiau’r gynhadedd yn cynnwys:
  • Clywed gan siaradwyr craff ac amserol ar y syniadau diweddaraf. 
  • Darganfod y newyddion tai diweddaraf gan gynnwys y Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 newydd a beth mae'n ei olygu i chi a'ch cartrefi.
  • Sesiynau sy'n canolbwyntio ar y pynciau llosg allweddol ym maes tai gan gynnwys ymdrin â chwynion ym maes tai, gwella gwasanaethau atgyweirio, a datgarboneiddio cartrefi, i enwi ond ychydig. 
  • Dysgu o astudiaethau achos Arfer Da.
  • Cyfle i rwydweithio a chwrdd ag eraill sy'n ymwneud ag ymgysylltu â thenantiaid ledled Cymru.
  • Rhannu arfer gorau rhagorol ac astudiaethau achos ymarferol

Sicrhewch eich bod yn ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad hamddenol ac anffurfiol, gyda ffocws mawr ar roi llawer o wybodaeth a syniadau i chi fynd gyda chi a'r amser a'r lle i gwrdd ag eraill.

I archebu, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen archebu yma

Sylwch – mae’r digwyddiad poblogaidd hwn yn gwerthu allan bob blwyddyn felly archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle. Nifer cyfyngedig iawn o leoedd preswyl sydd gennym ar ôl. Os ydych yn chwilio am becyn llety, holwch

Darganfyddwch fwy am sut brofiad yw hi gan bobl a fynychodd y gynhadledd y llynedd>>>