Mae cyfranogiad tenantiaid yn ffordd y mae tenantiaid a landlordiaid yn rhannu syniadau. Mae'n ffordd i'r tenant gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a geir yn ystod trafodaethau am wella safon amodau a gwasanaethau tai.
Mae cyfranogiad tenantiaid yn ffordd y mae tenantiaid a landlordiaid yn rhannu syniadau. Mae'n ffordd i'r tenant gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a geir yn ystod trafodaethau am wella safon amodau a gwasanaethau tai.
Gosododd Deddf Tai Cymru (2014) ofyniad cyfreithiol ar landlordiaid i ddatblygu’n weithredol a chefnogi cyfranogiad tenantiaid. Mae'n rhaid i bob landlord ac awdurdod lleol gael strategaeth cyfranogiad tenantiaid gyda'r nod hirdymor o sicrhau gwelliannau parhaus mewn perfformiad landlordiaid o ran cefnogi a galluogi tenantiaid i gyfranogi.
Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn awr yn annog eu tenantiaid i gyfranogi trwy ystod o ddulliau a allai gynnwys cylchgrawn tenantiaid, ymateb i arolygon neu fynd i gyfarfodydd. Mae gan y rhan fwyaf o landlordiaid yng Nghymru Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid ac mae'n rhan o'u rôl i sicrhau bod tenantiaid yn cyfranogi yn y sefydliad. Bydd landlordiaid yn aml yn darparu mannau cyfarfod, yn helpu gyda theipio a chopïo, trefnu hyfforddiant, ac yn gynyddol, darparu cyllid blynyddol i ganiatáu i grwpiau gyflawni eu gwaith yn annibynnol.
Mae llawer o Awdurdodau Lleol yn annog yr amrywiol Gymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr i ddod ynghyd mewn Ffederasiynau. Yng Nghymru ceir Ffederasiynau yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam a Bro Morgannwg.