Ydych chi'n denant sy'n rhentu yng Nghymru?
Mae TPAS Cymru yn gyffrous i lansio ei 5ed arolwg Pwls Tenantiaid sy’n canolbwyntio ar gynhesrwydd fforddiadwy, effeithlonrwydd ynni, a’r daith tuag at dai Net Sero yng Nghymru. Mae'r arolwg cyflym hwn yn cymryd llai na 5 munud ac yn rhoi'r cyfle i chi rannu eich profiadau a siapio dyfodol tai.
Mae cynhesrwydd fforddiadwy yn dechrau gyda chi. Mae eich cartref, eich biliau ynni, a'ch cynhesrwydd yn bwysig i ni. Fel tenantiaid, mae eich barn ar wresogi ac effeithlonrwydd ynni yn hanfodol i adeiladu cartrefi cynnes, gwyrdd sy'n gweithio i bawb.
Mae Eich Data yn Bwysig i Ni:
Rydym yn cymryd eich data o ddifrif ac yn sicrhau bod ein harolygon Pwls Tenantiaid yn diogelu eich gwybodaeth. Ni fyddwn byth yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon ac ati.
Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan i denantiaid rannu eu barn ar y materion sydd bwysicaf. Wedi’i greu gan TPAS Cymru bum mlynedd yn ôl a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, mae Pwls Tenantiaid yn casglu adborth yn rheolaidd ar bynciau allweddol i helpu i lunio polisïau tai yng Nghymru.
P'un a ydych mewn Tai Cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) Rhentu Preifat, neu Dai â Chymorth, mae Pwls Tenantiaid yn mwyhau eich llais.
Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolwg. Mae eich llais yn wirioneddol bwysig, ac rydym yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr.
Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan: