Ymweliad i Tŷ Gwyrddfai, Penygroes
Dydd Llun, 16 Mehefin 2025
Mae ymweliadau astudio yn ffordd wych i denantiaid a staff tai ddysgu a chael eu hysbrydoli.
Ar gyfer ein hymweliad cyntaf, mae TPAS Cymru yn mynd i Hwb Datgarboneiddio anhygoel Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes.
Mae’r ganolfan newydd gyffrous hon yn canolbwyntio ar sgiliau gwyrdd a datgarboneiddio. Mae’n cael ei redeg gan Adra gyda chefnogaeth gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai.
Mewn cydweithrediad ag Adra, rydym yn cynnig taith dywys o amgylch y cyfleuster gyda staff uwch, a ddilynir gan drafodaeth bord gron ddiddorol. Mae hwn yn gyfle gwych i archwilio arferion tai cynaliadwy a rhwydweithio ag eraill sy'n angerddol am ddyfodol gwell i Gymru.

Teithlen
-
10:30 – 12:00: Taith dywys (dau grŵp – un yn Saesneg, un yn Gymraeg)
-
12:00 – 12:30: Cinio bwffe (wedi'i gynnwys efo'ch tocyn)
-
12:30 – 13:45: Trafodaeth bord gron (wedi'i hwyluso, yn yr ystafell gynadledda)
-
14:00: Tranfnidiaeth yn ôl
Dewis Iaith: Nodwch eich dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) wrth archebu, fel y gallwn eich neilltuo i'r grŵp taith priodol.
Cyrraedd Yno: Rydym yn archwilio'r opsiwn o gael bws mini o orsaf drenau Bangor i'r safle ac yn ôl. Os byddai hyn o gymorth i chi, rhowch wybod i ni yn gynnar fel y gallwn gadarnhau'r trefniadau a rhannu'r gost fesul person.
Hygyrchedd: Mae'r safle yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.
Neges gan Rhys, Rheolwr Busnes a Datblygu at Tŷ Gwyrddfai:
“Rydym yn croesawu’r ymweliad gan TPAS, ei aelodau a thenantiaid i Dŷ Gwyrddfai. Mae’r hwb yn bodoli er mwyn hyrwyddo arferion adeiladu gwyrdd a datblygu sgiliau gwyrdd fydd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon o fewn ein stoc tai. Drwy’r gwaith arloesi yma byddwn yn helpu i wella ansawdd bywyd ein tenantiaid.”
Cost (yn cynnwys cinio):
-
Swyddogion: £39 + TAW
-
Tenantiaid: £19 + TAW
-
Myfyrwyr/O dan 25: Am ddim
Archebwch eich lle drwy'r system archebu ar-lein isod ⬇️⬇️
Telerau ac amodau
-
Mae angen cadarnhad ysgrifenedig trwy e-bost ar gyfer pob achos o ganslo. Bydd archebion a ganslwyd cyn y dyddiad 6 Mehefin 2025 yn cael eu had-dalu. Ni fydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu prosesu ar ôl y dyddiad hwn.
-
Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu’r digwyddiad yn atebol i dalu’n llawn oni bai y derbynnir gohebiaeth ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo, sef 6 Mehefin 2025
-
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid hysbysu pob newid i [email protected].Os gwneir newidiadau i eilyddion ar ôl y dyddiad canslo, ni allwn warantu y byddwn yn gallu diwallu unrhyw anghenion penodol, e.e. dietegol. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i wirio.
-
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i ganslo
-
Ein nod yw sicrhau bod y cyrsiau a'r digwyddiadau yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo'r cwrs neu ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os felly, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y cwrs neu ddigwyddiad a ganslwyd byddwn yn trosglwyddo eich archeb i ddyddiad wedi'i aildrefnu neu'n rhoi ad-daliad llawn i chi os nad yw'r opsiwn hwn yn bosibl. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech fynd iddynt o ganlyniad i’r canslad.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Teithiau TPAS Cymru - Gogledd Cymru
Dyddiad
Dydd Llun
16
Mehefin
2025, 10:30 - 14:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Llun 06 Mehefin 2025
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Ty Gwyrddfai
Cyfeiriad y Lleoliad
Penygroes Industrial Estate
Penygroes
Caernarfon
Gwynedd
LL54 6DB