Paratowch ar gyfer diwrnod ysbrydoledig o fewnwelediadau, syniadau a chydweithio yn ein Diwrnod Arfer Gorau hanfodol ar gyfer Ymgysylltu â Thenantiaid

Sut i Ymgysylltu â Phobl yn 2025 a Thu hwnt: Diwrnod Arfer Gorau Ymgysylltu â Thenantiaid

Dydd Mercher, 25 Mehefin 2025: 10.00am – 3.30pm. Darperir lluniaeth a chinio bwffe

Gwesty'r Leonardo, Canol Dinas Caerdydd (*gweler ‘gostyngiad pellter’ arbennig’). 

Paratowch ar gyfer diwrnod ysbrydoledig o fewnwelediadau, syniadau a chydweithio yn ein Diwrnod Arfer Gorau hanfodol ar gyfer Ymgysylltu â Thenantiaid. Dewch i glywed popeth sydd angen i chi ei wybod mewn un lle trwy ymuno â ni ym mis Mehefin.

Mae’r ffordd y mae landlordiaid yn ymgysylltu â thenantiaid a chymunedau yn newid, felly darganfyddwch enghreifftiau cyffrous sy’n dod i’r amlwg o arfer da ymgysylltu â thenantiaid a gadael gyda syniadau i wella ymgysylltiad i bawb.

Byddwch yn clywed gan amrywiaeth o siaradwyr arbenigol wrth iddynt rannu eu safbwyntiau a’u syniadau ar gyfer ymgysylltu gwych â thenantiaid yn 2025, ac i’r dyfodol.

Dysgwch am atebion ymarferol newydd sy'n cael eu defnyddio ar draws y sector, i glywed lleisiau'r holl denantiaid. Hefyd, sut i ddatrys heriau cyffredin o ran ymgysylltu â thenantiaid megis recriwtio a chlywed gan y rhai ‘heb eu clywed’.

Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad hamddenol ac anffurfiol, cwrdd â phobl anhygoel sy'n gwneud ymgysylltu â thenantiaid yn llwyddiant a chael syniadau newydd ac ysbrydoliaeth. Gyda’n gilydd, gallwn greu sector tai i fod yn falch ohono.

Bydd themâu allweddol y diwrnod yn cynnwys:
  • Sut a pham mae ymgysylltiad tenantiaid yn newid yng Nghymru
  • Beth sydd ei angen arnoch i wneud i ymgysylltu weithio yn 2025 ac yn y dyfodol.
  • Sut i ymgysylltu â Phobl Ifanc
  • Cael y diwylliant yn iawn ar gyfer ymgysylltu
  • Beth sy’n gwneud i ‘Fframwaith Cymryd Rhan’ weithio?
  • ‘Siopau Siarad’ sut mae’r cysyniad ymgysylltu cyffrous hwn yn gweithio
  • Sut i recriwtio ar gyfer ymgysylltu
  • Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn newid a sut y gellir eu defnyddio i ymgysylltu â thenantiaid.

Pwy ddylai fynychu? Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn hanfodol i landlordiaid cymdeithasol, preswylwyr, sefydliadau trydydd sector, gwirfoddolwyr cymunedol, asiantaethau statudol, elusennau, a grwpiau gwirfoddol, felly byddwch yn rhan ohono ac archebwch eich lle nawr.

Noder:
  • Mae lleoedd yn gyfyngedig i'n galluogi i gynnig cynllun ystafell arddull cabaret i helpu gyda'ch cysur a chyfleoedd rhwydweithio.
  • Mae gennym *gostyngiad pellter arbennig ar y pris i'r archebion hynny gan sefydliadau sydd wedi'u lleoli 50 milltir neu fwy o'r lleoliad.
  • Byddwn yn cynnal ein Seremoni Wobrwyo Arfer Da Blynyddol gyda’r nos ac felly mae yna opsiwn arbed i’r rhai sy’n dymuno mynychu’r ddau ddigwyddiad. Rhagor o fanylion am ein Gwobrau yma
Trefniadau archebu

Gan fod lleoedd yn gyfyngedig, Os hoffech sicrhau lleoedd ar gyfer nifer o gynrychiolwyr a darparu eu henwau a'u manylion yn ddiweddarach, erbyn y dyddiad cau, gallwch wneud hynny gan lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen archebu hon. (telerau ac amodau yn berthnasol)


Telerau ac amodau
  • Mae angen cadarnhad ysgrifenedig trwy e-bost ar gyfer pob achos o ganslo. Bydd archebion a ganslwyd cyn y dyddiad 12 Mehefin 2025 yn cael eu had-dalu. Ni fydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu prosesu ar ôl y dyddiad hwn.
  • Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu’r digwyddiad yn atebol i dalu’n llawn oni bai y derbynnir gohebiaeth ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo, sef 12 Mehefin 2025
  • Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid hysbysu pob newid i [email protected].Os gwneir newidiadau i eilyddion ar ôl y dyddiad canslo, ni allwn warantu y byddwn yn gallu diwallu unrhyw anghenion penodol, e.e. dietegol. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i wirio.
  • Unwaith y byddwn wedi derbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
 
Hawl TPAS Cymru i ganslo
  • Ein nod yw sicrhau bod y cyrsiau a'r digwyddiadau yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo'r cwrs neu ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os felly, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y cwrs neu ddigwyddiad a ganslwyd byddwn yn trosglwyddo eich archeb i ddyddiad wedi'i aildrefnu neu'n rhoi ad-daliad llawn i chi os nad yw'r opsiwn hwn yn bosibl. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech fynd iddynt o ganlyniad i’r canslad.

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sut i Ymgysylltu â Phobl yn 2025 a Thu hwnt: Diwrnod Arfer Gorau Ymgysylltu â Thenantiaid

Dyddiad

Dydd Mercher 25 Mehefin 2025, 10:00 - 15:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Iau 12 Mehefin 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Leonardo Hotel Cardiff (formerly Jury's Inn)

Cyfeiriad y Lleoliad

1 Park Place
Cardiff
CF10 3DN

0292 078 5590

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X