A ydych yn denant i landlord cymdeithasol yng ngogledd Cymru?

Rhwydwaith Tenantiaid (Gogledd) - Ffocws ar Lais Tenantiaid mewn Gosod Rhenti

Dyddiad: Dydd Llun 2 Rhagfyr 2025

Amser: Cofrestru am 10am i gychwyn am 10.15am – 12.30pm

Lleoliad: Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Parc Busnes Gohledd Cymru, Cae Eithin, Abergele LL22 8LJ

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i'w fynychu. Darperir lluniaeth ysgafn. Dim cinio.

A ydych yn denant i landlord cymdeithasol yng Nghymru?

Os ydych, fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad anffurfiol, cyfeillgar a rhad ac am ddim! Digwyddiad wyneb yn wyneb i glywed y newyddion diweddaraf mewn tai cymdeithasol a Llais y Tenantiaid ac i gwrdd â thenantiaid eraill i rannu syniadau a dysgu gan eraill.

Yn ystod y sesiwn hon, pwnc allweddol fydd Rhenti tai cymdeithasol a sut y caiff rhenti eu gosod
Gall landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru osod rhenti gan ddefnyddio modelau a dulliau gwahanol ond rhaid iddynt wneud hynny o fewn y polisi rhenti a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC).

Felly, beth ddylai gael ei gynnwys mewn polisi rhent a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a beth ddylai landlordiaid ei ystyried wrth osod rhenti? Beth sy'n bwysig i chi? Ai fforddiadwyedd ydyw? Gwerth am arian? Ymgynghori â thenantiaid? Costau rhedeg eiddo?

Bydd barn gyffredinol y sesiwn yn cael ei rhannu â swyddogion Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod Llais y Tenantiaid yn llywio eu polisi Gosod Rhent yn y dyfodol.

 Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, nodwch y canlynol:
  • Er mwyn helpu i reoli niferoedd ac i sicrhau bod cymysgedd o denantiaid o wahanol landlordiaid yn gallu mynychu, rydym yn y lle cyntaf yn gwahodd hyd at 4 cynrychiolydd tenantiaid o bob Landlord i fynychu’r Rhwydwaith wyneb yn wyneb hwn. 
  • Gan fod niferoedd yn gyfyngedig, holwch eich landlord rhag ofn bod yna denantiaid eraill sydd eisiau dod i'r rhwydwaith hwn.
  • Os ydych yn bwriadu hawlio costau teithio gan eich landlord i fynychu, holwch eich landlord cyn archebu eich lle.

Dyma gyfle i rannu lleisiau Tenantiaid, clywed beth mae Tenantiaid eraill yn ei wneud ar draws gogledd Cymru ac i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru.

Sut i archebu lle
  • I archebu eich lle, cysylltwch â: [email protected]   
  • Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i Iona am unrhyw anghenion penodol e.e. parcio i’r anabl, gofynion dietegol, mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn ac ati.
  • Dyddiad cau: canol dydd 25 Tachwedd 2024

Diolch i Cartrefi Conwy am gynnal y digwyddiad hwn yn eu swyddfeydd yn Abergele.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Rhwydwaith Tenantiaid (Gogledd) - Ffocws ar Lais Tenantiaid mewn Gosod Rhenti

Dyddiad

Dydd Llun 02 Rhagfyr 2024, 10:00 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Llun 25 Tachwedd 2024

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

david lloyd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Cartrefi Conwy

Cyfeiriad y Lleoliad

Morfa Gele
North Wales Business Park
Cae Eithin
Conwy
Abergele
LL22 8LJ

0300 124 0040

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X