Jennifer Jones o Wales Today fydd yn cynnal Gwobrau Arfer Da a Chinio Dathlu TPAS Cymru eleni.

Gworau Arfer Da TPAS Cymru 2024

DIGWYDDIAD YN LLAWN

Nos Fercher 3 Gorffennaf, 6.00pm - 9.30pm - Gwesty'r Leonardo Caerdydd

I bawb sydd ar y rhestr fer ac wedi’u gwahodd i’n Seremoni Wobrwyo, mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi isod.

This year's TPAS Cymru's Good Practice Awards and Celebration Dinner will be hosted by Jennifer Jones

Mae Jennifer yn fwyaf adnabyddus fel angor newyddion ar raglen newyddion deledu flaenllaw BBC Cymru, Wales Today. Mae hi hefyd yn falch o gyflwyno rhaglen newyddion a materion cyfoes BBC Radio Cymru Dros Ginio, ac mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglen newyddion amser gyrru BBC Radio Wales, Good Evening Wales.
 
Cyflwynodd Jennifer raglenni Eisteddfod Genedlaethol S4C yn ystod y cyfynod clo. Eleni roedd hi'n gohebu o'r ŵyl ar gyfer newyddion Saesneg. Yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf o ogledd Cymru, mae Jen ar hyn o bryd yn mwynhau gyrfa brysur ac amrywiol
 

 CWESTIYNAU CYFFREDIN

Beth ddylwn i wisgo?

Nid oes cod gwisg ffurfiol - rydym eisiau i'n cynrychiolwyr wisgo beth bynnag y maent yn gyfforddus ynddo. Gallwch wisgo i fyny neu wisgo i lawr, chi sydd i benderfynu! Dewch i fwynhau eich hunain.

Faint o'r gloch mae'n dechrau a gorffen?

Edrychwch ar y rhaglen isod – gwnewch yn siŵr eich bod yn eistedd ar amser! Edrychwch ar y cynllun eistedd yn ardal y bar pan fyddwch chi'n cyrraedd.

Os byddwch yn cyrraedd cyn 6pm, bydd bar y gwesty yn y brif dderbynfa ar agor nes bod y drysau’n agor ar gyfer seremoni am 6pm

Gawn ni dynnu lluniau?

Cewch, bydd digon o gyfleoedd i dynnu lluniau wrth i bob gwobr gael ei chyflwyno. Bydd gennym hefyd ffotograffydd swyddogol yn ystod y noson yn tynnu lluniau o bob un o'r rownd derfynol. Bydd pob llun a dynnir ar gael ar-lein drwy TPAS Cymru yn y dyddiau nesaf yn dilyn y digwyddiad. Mae croeso mawr i chi hefyd dynnu eich lluniau grŵp nes ymlaen o flaen baner TPAS Cymru yn ardal y bar.

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i Menter Môn sydd wedi bod mor garedig â noddi’r ffotograffydd heno

 

RHAGLEN Y NOSON

 

 

Cyn y Seremoni Wobrwyo gyda'r nos, yn ystod y dydd byddwn yn cynnal ein Cynhadledd 1 Diwrnod ‘Creu Cymunedau Gwych’ gyffrous. Bydd hwn yn ddigwyddiad gwych yn rhannu syniadau ac astudiaethau achos ymarferol. Beth am wneud diwrnod ohoni a mynychu'r ddau ddigwyddiad trwy ddewis y 'Pecyn Arbed' ar y ffurflen archebuCeir manylion am ein cynhadledd undydd yma.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu

 

TTELERAU AC AMODAU

  1. Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW
  2. Nid yw’r opsiynau yn cynnwys llety dros nos. Os ydych eisiau aros yn y gwesty, bydd angen i chi archebu hyn yn uniongyrchol â’r gwesty drwy ffonio 0292 078 5590
  3. Mae’r *disgownt pellter yn berthnasol i’r sefydliadau sydd wedi eu lleoli 50 milltir neu fwy i ffwrdd o’r lleoliad
  4. NI ALL TPAS Cymru dderbyn archebion dros dro.
  5. Mae angen cadarnhad ysgrifenedig ar gyfer pob canslad.  Bydd cansladau a dderbynnir cyn y dyddiad cau o 21 Mehefin 2024 yn cael eu had-dalu, minws ffi weinyddu o £30.00.  Ni fydd unrhyw ad-daliadau ar ôl y dyddiad hwn.
  6. Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r gynhadledd yn atebol i dalu yn llawn oni bai ein bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo.
  7. Bydd unrhyw newidiadau, megis enwau, a wneir i archebion ar ôl 21 Mehefin 2024 yn derbyn ffi weinyddol o £15.00 + TAW fesul newid. 
  8. Efallai y bydd rhaid i TPAS Cymru ganslo'r digwyddiad hwn. Yn yr achos yma, byddwn yn ad-dalu unrhyw daliadau a dderbyniwyd. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech fynd iddynt o ganlyniad i'r canslad

    

 

 

 

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Gworau Arfer Da TPAS Cymru 2024

Dyddiad

Dydd Mercher 03 Gorffennaf 2024, 18:00 - 21:45

Archebu Ar gael Tan

Dydd Gwener 21 Mehefin 2024

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Leonardo Hotel Cardiff (formerly Jury's Inn)

Cyfeiriad y Lleoliad

1 Park Place
Cardiff
CF10 3DN

0292 078 5590

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X