Sydd Mawrth, 28 Ionawr 2025: 10am - 1pm
Mae creu cartrefi sy’n ynni-effeithlon, cynaliadwy, a fforddiadwy wrth wraidd tai yng Nghymru. Gyda Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 yn pwysleisio cynhesrwydd fforddiadwy, ni fu erioed amser gwell i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datrysiadau gwresogi newydd sydd wedi’u profi a’r hyn y mae landlordiaid yn ei roi ar waith.
Mae TPAS Cymru yma i helpu - Bydd y sesiwn bersonol hon yn eich arwain trwy hanfodion cartrefi Sero Net, SATC, y technolegau dan sylw, gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn ynghyd ag awgrymiadau diweddaraf ar gael tenantiaid i ymgysylltu â datgarboneiddio..
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:
Cynhesrwydd Fforddiadwy yn SATC:
Archwilio sut mae SATC yn blaenoriaethu systemau ynni-effeithlon sy'n gostwng biliau tra'n lleihau effaith amgylcheddol.
Pam fod Cartrefi Sero Net yn Bwysig i Gymru:
Deall sut mae cyflawni Sero Net yn allweddol i adeiladu cymunedau cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar denantiaid.
Deall y Jargon:
Dysgwch jargon sero net a thermau sy'n ymwneud â gwella fforddiadwyedd ar gyfer cartrefi.
Technolegau a Systemau Sero Net:
Dewch yn gyfarwydd â thechnolegau carbon isel ymarferol sy'n trawsnewid tai a pha wersi sydd wedi'u dysgu hyd yma
Cynnwys Tenantiaid ar y Siwrnai Sero Net:
Darganfyddwch sut i gynnwys tenantiaid yn effeithiol mewn ymdrechion cynaliadwyedd ar gyfer effaith barhaol.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r sesiwn hon yn berffaith ar gyfer tenantiaid, swyddogion tai, a staff sy’n awyddus i wella eu dealltwriaeth o gartrefi carbon isel a SATC 2023.
Rydym yn hyderus y bydd y sesiwn gyffrous hon yn eich gadael yn teimlo'n barod i gael eich sefydliad ar eu llwybr i Sero Net! Yn ogystal, mae hwn yn gyfle gwych i chi gyfarfod a rhwydweithio gyda thenantiaid a staff eraill sydd â diddordebau tebyg mewn tai carbon isel.
Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer tenantiaid a staff sydd am ddyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gartrefi carbon isel a’r hyn y mae’n ei olygu i’ch sefydliad ac i Gymru..
Lleoliad: TPAS Cymru, Swît 4, Adeilad Unite, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD
Cost: (yn cynnwys lluniaeth)
-
Tenantiaid: £29 + TAW
-
Tenantiaid yn cynnwys cinio: £39 + TAW
-
Staff (aelodau): £59 + TAW
-
Staff yn cynnwys cinio: £69 + TAW
-
Pawb arall sydd ddim yn aelodau: £89 + TAW
Nid oes lle i barcio ar y safle, felly cysylltwch â ni os hoffech i ni argymell ble i barcio. Ffôn: 02920 237303
Archebwch eich lle drwy'r system archebu ar-lein isod⬇️⬇️
Telerau ac Amodau
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cynhesrwydd Fforddiadwy, SATC ac Atebion Gwresogi Newydd (DE CYMRU)
Dyddiad
Dydd Mawrth
28
Ionawr
2025, 10:00 - 13:00
Archebu Ar gael Tan
Sul 26 Ionawr 2025
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Akshita Lakhiwal
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Unite Building
Cyfeiriad y Lleoliad
The Unite Building
1 Cathedral Road
South Glamorgan
Cardiff
CF11 9SD
029 2023 7303