Ein Cynhadledd Ymgysylltu Genedlaethol hanfodol yw’r man lle mae pawb: tenantiaid, staff a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cyfarfod i ddarganfod a thrafod y materion tai a chymunedol mawr diweddaraf, dysgu o arfer da ac archwilio syniadau ac atebion.

Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru 2024

Cartrefi - Cymunedau - Llais y Tenant

Dydd Mercher 13 a Dydd Iau 14 Tachwedd 2024

(Mae'r opsiwn pecyn cyflawn yn cynnwys arhosiad ychwanegol dros nos ddydd Mawrth 12 Tachwedd)

 

Byddwch yn rhan o Gynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru – rydym wedi trefnu ystod wych o siaradwyr gwadd a sesiynau gweithdy cyffrous i chi, y cyfan yn canolbwyntio ar y materion tai, cymunedol ac ymgysylltu â thenantiaid diweddaraf.

Beth ydyw? 

Ein cynhadledd ymgysylltu genedlaethol hanfodol yw’r man lle mae pawb: tenantiaid, staff a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cyfarfod i ddarganfod a thrafod y materion tai a chymunedol mawr diweddaraf, dysgu o arfer da ac archwilio syniadau ac atebion. 

Pam ddyliwn i fynychu?

Bydd yr rhaglen orlawn yn cynnwys siaradwyr ysbrydoledig ac astudiaethau achos ymarferol go iawn Byddwch hefyd yn gallu dewis o ystod gyffrous o sesiynau gweithdy, a bydd digon o amser i sgwrsio a rhwydweithio ag eraill sy'n mynychu a rhannu syniadau. Bydd y digwyddiad hwn yn ysgogi, yn ysbrydoli ac yn hysbysu pawb sy'n mynychu - felly ni fyddwch eisiau colli allan!

Pwy ddylai fynychu? 

Mae'r digwyddiad hwn yn hanfodol i landlordiaid cymdeithasol, tenantiaid, preswylwyr, sefydliadau trydydd sector a grwpiau gwirfoddol. Ymunwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn tai yng Nghymru, datblygu cymunedol, llais tenantiaid ac ymgysylltu neu ddyfodol cartrefi yng Nghymru - archebwch eich lle nawr.

Sut gallaf sicrhau lle?

Mae'r digwyddiad poblogaidd hwn yn gwerthu allan bob blwyddyn!  Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle. I archebu, defnyddiwch y ddolen ffurflen archebu isod. Hefyd, cysylltwch os oes gennych unrhyw ymholiadau am archebu llety preswyl. Rydym wastad yn hapus i helpu

 

Darganfyddwch fwy am sut brofiad yw hi gan bobl a fynychodd y gynhadledd y llynedd>>>

Sicrhewch eich bod yn ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad hamddenol ac anffurfiol, gyda ffocws mawr ar roi llawer o wybodaeth a syniadau i chi fynd gyda chi a'r amser a'r lle i gwrdd ag eraill.

I archebu, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen archebu yma

Sylwch – mae’r digwyddiad poblogaidd hwn yn gwerthu allan bob blwyddyn felly archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle. Nifer cyfyngedig iawn o leoedd preswyl sydd gennym ar ôl. Os ydych yn chwilio am becyn llety, holwch

 


Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl i Ganslo TPAS Cymru

Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os felly, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Os byddwn yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru 2024

Dyddiad

Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024, 08:45 - Dydd Iau14Tachwedd2024, 15:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Gwener 25 Hydref 2024

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

The Metropole Hotel

Cyfeiriad y Lleoliad

The Metropole Hotel and Spa
Temple Street
Llandrindod Wells
Powys
LD1 5DY

+44 (0) 1597 823700

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X