Byddwch yn rhan o Gynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru – rydym wedi trefnu ystod wych o siaradwyr gwadd a sesiynau gweithdy cyffrous i chi, y cyfan yn canolbwyntio ar y materion tai, cymunedol ac ymgysylltu â thenantiaid diweddaraf

Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru 2023

Eich Cartrefi, Eich Cymunedau - Mae Eich Llais yn bwysig

Dydd Mercher 15 a Dydd Iau 16 Tachwedd 2023

(Mae'r opsiwn pecyn cyflawn yn cynnwys arhosiad ychwanegol dros nos ddydd Mawrth 14 Tachwedd)

Byddwch yn rhan o Gynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru – rydym wedi trefnu ystod wych o siaradwyr gwadd a sesiynau gweithdy cyffrous i chi, y cyfan yn canolbwyntio ar y materion tai, cymunedol ac ymgysylltu â thenantiaid diweddaraf.

Beth ydyw? 

Ein cynhadledd ymgysylltu genedlaethol hanfodol yw’r man lle mae tenantiaid, staff a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cyfarfod i ddarganfod a thrafod y materion tai a chymunedol mawr diweddaraf, dysgu o arfer da ac archwilio syniadau ac atebion. 

Pam ddyliwn i fynychu?

Bydd yr amserlen orlawn yn cynnwys siaradwyr ysbrydoledig ac astudiaethau achos ymarferol. Byddwch hefyd yn gallu dewis o ystod gyffrous o sesiynau gweithdy, a bydd digon o amser i sgwrsio ag eraill sy'n mynychu a rhannu syniadau. Bydd y digwyddiad hwn yn ysgogi, yn ysbrydoli ac yn hysbysu pawb sy'n mynychu - felly ni fyddwch eisiau colli allan!

Pwy ddylai fynychu? 

Mae'r digwyddiad hwn yn hanfodol i landlordiaid cymdeithasol, tenantiaid, preswylwyr, sefydliadau trydydd sector a grwpiau gwirfoddol. Ymunwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn tai yng Nghymru, datblygu cymunedol, llais tenantiaid ac ymgysylltu neu ddyfodol cartrefi yng Nghymru - archebwch eich lle nawr.

Bydd yr uchafbwyntiau yn cynnwys:

Rhannu arfer gorau rhagorol ac astudiaethau achos ymarferol

  • Clywed gan siaradwyr craff ac amserol ar y syniadau diweddaraf. 
  • Darganfod y newyddion tai diweddaraf gan gynnwys y Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 newydd a beth mae'n ei olygu i'ch cartrefi.
  • Sesiynau sy'n canolbwyntio ar y pynciau llosg allweddol ym maes tai gan gynnwys - costau byw, gosod rhenti, gwella gwasanaethau atgyweirio, a datgarboneiddio cartrefi, i enwi ychydig. 
  • Dysgu o astudiaethau achos Arfer Da.
  • Cyfle i rwydweithio a chwrdd ag eraill sy'n ymwneud ag ymgysylltu â thenantiaid ledled Cymru.
Yn agor ein cynhadledd eleni bydd Julie James AS, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, y mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys gweithgareddau tai a thai Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a fforddiadwy.

 

Bydd y rhaglen llawn yma yn fuan!

Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad hamddenol ac anffurfiol, gyda ffocws mawr ar roi llawer o wybodaeth a syniadau i chi fynd gyda chi a'r amser a'r lle i gwrdd ag eraill. 

I archebu lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen archebu yma *

Sylwch – mae’r digwyddiad poblogaidd hwn yn gwerthu allan bob blwyddyn felly archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle. Mae lleoedd preswyl yn brin iawn.  Os ydych yn chwilio am lety, cysylltwch â ni.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni: 01492 593046 / 02920 237303 neu [email protected]


TELERAU AC AMODAU

  • Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW.
  • Mae’r opsiynau cynrychiolwyr dydd yn cynnwys lluniaeth a chinio ond nid y pryd bwyd min nos na llety.
  • Darperir llety yn y Metropole ar gyfer y cynrychiolwyr sy’n archebu’r pecynnau preswyl llawn 1, 2, 3 a 4… yn unig
  • NI ALL TPAS Cymru dderbyn archebion dros dro.
  • Dim ond un cynrychiolydd fesul ffurflen archebu y derbynnir.
  • Mae angen cadarnhad ysgrifenedig ar gyfer pob canslad.  Bydd cansladau a dderbynnir cyn y dyddiad cau o ddydd Iau 26 Hydref 2023 yn cael eu had-dalu, minws ffi weinyddu o £30.00.  Ni fydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu prosesu ar ôl y dyddiad hwn.
  • Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r gynhadledd yn atebol i dalu yn llawn oni bai ein bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig erbyn y dyddiad canslo.
  •  Bydd unrhyw newidiadau, megis enwau, a wneir i archebion ar ôl dydd Iau 26 Hydref 2023 yn derbyn ffi weinyddol o £15.00 + TAW fesul newid. 
  • Efallai y bydd rhaid i TPAS Cymru ganslo'r digwyddiad hwn. Yn yr achos yma, byddwn yn ad-dalu unrhyw daliadau a dderbyniwyd. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau y gallech fynd iddynt o ganlyniad i'r canslad

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru 2023

Dyddiad

Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023, 10:30 - Dydd Iau16Tachwedd2023, 15:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Iau 26 Hydref 2023

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

The Metropole Hotel

Cyfeiriad y Lleoliad

The Metropole Hotel and Spa
Temple Street
Llandrindod Wells
Powys
LD1 5DY

+44 (0) 1597 823700

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X