Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ein cynhadledd hanner diwrnod poblogaidd Cartrefi a Chymunedau - Gogledd Cymru yn cael ei chynnal eto eleni yn Venue Cymru ddydd Mercher 12 Mawrth.

Cartrefi a Chymunedau Gogledd Cymru

 

9.30am (i gychwyn am 10.00am) – 1.00pm

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ein cynhadledd hanner diwrnod poblogaidd Cartrefi a Chymunedau - Gogledd Cymru yn cael ei chynnal eto eleni yn Venue Cymru ddydd Mercher 12 Mawrth.

Mae’r digwyddiad anffurfiol ac addysgiadol rhad ac am ddim hwn ar gyfer staff a thenantiaid ac ar gyfer aelodau TPAS Cymru yn unig. Bydd yn gyfle gwych arall i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr ysgogol ac addysgiadol am yr hyn sy’n digwydd ym maes tai a chymunedau gogledd Cymru. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi rwydweithio gyda mynychwyr eraill o landlordiaid cymdeithasol ar draws y rhanbarth. 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Siaradwyr wedi eu cadarnhau: 

Tŷ Gwyrddfai, canolbwynt datgarboneiddio arloesol yng ngogledd Cymru
Sion Hughes, Adra

Dysgwch am Tŷ Gwyrddfai, canolbwynt datgarboneiddio arloesol yng ngogledd Cymru sydd wedi dod â’r sector tai, darparwyr addysg a hyfforddiant, cymunedau a busnesau ynghyd. Darganfyddwch sut mae'r prosiect yn arwain at weithlu mwy cymwys a medrus a fydd yn helpu i wneud cartrefi'n fwy ynni-effeithlon, lleihau allyriadau carbon ac effaith costau ynni cynyddol a gwella ansawdd bywyd i denantiaid.

Y Prosiect Cydlyniant Cymunedol – gogledd Cymru
Emily Reddy a Catrin Jones

Clywch am waith dylanwadol y Prosiect Cydlyniant Cymunedol yng ngogledd Cymru. Darganfyddwch sut mae'r prosiect yn cefnogi cymunedau ar draws y rhanbarth i fod yn fwy cynhwysol a chydlynol a'r gwahaniaeth y mae hynny'n ei wneud i bawb. Bydd Emily a Catrin yn rhannu rhai enghreifftiau o’u gwaith a sut maen nhw o fudd i’r gymuned.

Project Dewi cefnogi ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Mike Corcoran a Dr. Rebecca Colley-Jones

Clywch gan Mike a Rebecca o Brosiect Dewi a fydd yn rhoi’r cyd-destun a throsolwg o’r rhaglen 5 mlynedd hon o waith gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng ngogledd Cymru. Bydd Mike a Rebecca yn cyflwyno ar arferion da Cydgynhyrchu a chynnwys ac yn rhannu rhai o ganlyniadau’r prosiect hyd yma ac yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd.

Groundwork Gogledd Cymru – gweithio ochr yn ochr â chymunedau i’w cefnogi
Louise Stokes
Mae Groundwork yn gweithio gyda, ac yn cefnogi, cymunedau ar draws gogledd Cymru gan greu effeithiau cadarnhaol i bobl, lleoedd a’r blaned. Bydd Louise Stokes yn siarad am y gwahanol brosiectau ysbrydoledig a redir gan Groundwork, y gwahaniaeth y maent wedi’i wneud a sut y gallech chi a’ch cymuned gymryd rhan.
 

Noder: Bydd y niferoedd ar gyfer y gynhadledd hon yn gyfyngedig felly, er mwyn sicrhau bod lleoedd ar gyfer ein holl aelodau, rydym yn y lle cyntaf yn caniatáu i 3 aelod o staff a 3 thenant o bob aelod o Landlordiaid gadw lle. Bydd y lleoedd hyn ar sail y cyntaf i’r felin: os oes gennym unrhyw leoedd sbâr yn nes at ddyddiad y digwyddiad byddwn yn eu hail-hysbysebu.  Ebostiwch [email protected] i archebu eich lle ac i roi gwybod am unrhyw anghenion hygyrch neu ddietegolnd.

Lunch will not be provided at this half day conference.  Also, please ask for permission from your Landlord if you’re wanting to claim travel expenses to attend this event.

Wedi'i gefnogi'n garedig gan 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cartrefi a Chymunedau Gogledd Cymru

Dyddiad

Dydd Mercher 12 Mawrth 2025, 10:00 - 13:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Gwener 07 Mawrth 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Venue Cymru

Cyfeiriad y Lleoliad

The Promenade
Penrhyn Crescent
Llandudno
Conwy
LL30 1BB

01492 872000

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X