Yr Arolygon Bodlonrwydd Tenantiaid Safonedig Newydd (Agenda: Rhifyn 7)
Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord
Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord. Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord. Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
Yr Arolygon Bodlonrwydd Tenantiaid Safonedig Newydd
Mae Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol eisiau sicrhau bod tenantiaid yng Nghymru yn mwynhau cartrefi a gwasanaethau landlordiaid o ansawdd uchel - yn enwedig atgyweiriadau a chynnal a chadw.
Er mwyn helpu i ddarganfod beth yw barn tenantiaid am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn mae Llywodraeth Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a Chynghorau) gynnal Arolygon Bodlonrwydd Tenantiaid Safonedig.
Yna bydd canlyniadau'r arolygon yn cael eu cyhoeddi ar wefan ganolog i gynorthwyo tenantiaid i graffu a chymharu perfformiad landlordiaid. Gall landlordiaid hefyd gyhoeddi eu canlyniadau eu hunain i'w rhannu â'u tenantiaid.
Y manylion
Mae angen cynnal yr arolwg safonedig o leiaf bob 2 flynedd. Gall landlordiaid cymdeithasol eu gwneud yn amlach os ydyn nhw eisiau. Gallant hefyd wneud arolygon bodlonrwydd eraill. Weithiau cyfeirir at yr arolygon hyn fel arolygon STAR.
Mae llawer o gwestiynau yn yr arolygon yn gofyn i denantiaid pa mor fodlon ydyn nhw gyda gwasanaeth penodol. Mae 12 cwestiwn craidd y mae'n rhaid i bob landlord eu gofyn yn yr arolwg, a restrir isod. Gall landlordiaid ofyn cwestiynau ychwanegol eraill.
Y cwestiynau craidd:
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda'r gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ag ansawdd cyffredinol eich cartref?
-
Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda'r ffordd y mae'ch landlord cymdeithasol yn delio ag atgyweiriadau a chynnal a chadw?
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich taliadau gwasanaeth yn darparu gwerth am arian?
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi â'ch cymdogaeth fel lle i fyw?
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn darparu gwerth am arian?
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arnynt?
-
Wrth feddwl am eich cartref yn benodol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn darparu cartref sy'n ddiogel?
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda'r ffordd y mae'ch landlord cymdeithasol yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda'r cyfleoedd a roddir i chi gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau eich landlord cymdeithasol?
-
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn rhoi llais i chi ar sut mae gwasanaethau'n cael eu rheoli?
-
I ba raddau ydych chi'n cytuno â'r datganiad canlynol - "Rwy'n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol"
Cwestiynau i denantiaid i’w gofyn:-
-
Pa ddulliau y mae eich landlord yn eu defnyddio i gynnal ei arolygon? e.e. ffôn, ar-lein, post.
-
A yw'r dulliau hyn yn gynhwysol ar gyfer yr holl denantiaid sy'n byw yng nghartrefi eich landlord?
-
A yw tenantiaid wedi bod yn rhan o ddylunio'r dulliau gorau i'w defnyddio?
-
Pa gymorth sydd ar gael i helpu tenantiaid i gwblhau'r arolygon?
-
Sut mae'ch landlord yn hyrwyddo'r arolygon ac yn annog tenantiaid i'w cwblhau?
-
Pa % o denantiaid sy'n cwblhau'r arolygon? - (cyfraddau ymateb)
-
A yw'r tenantiaid sy'n ymateb yn adlewyrchu amrywiaeth tenantiaid eich landlord?
-
Sut mae canlyniadau arolygon yn cael eu rhannu gyda'r holl denantiaid?
-
Sut mae tenantiaid yn ymwneud ag edrych ar ganlyniadau'r arolwg a gweithio gyda'r landlord i nodi unrhyw welliannau i'r gwasanaethau sydd eu hangen?
Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich sgyrsiau â'ch landlordiaid. Felly e-bostiwch: [email protected]