Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru 2020-2025 (Yr Agenda: Rhifyn 15)
Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod gyda'u landlord
Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord. Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.
Beth yw Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru?
Mae angen i Landlordiaid Cymdeithasol* yng Nghymru osod eu rhent a’u taliadau gwasanaeth yn unol â’r rheolau a’r canllawiau a nodir yn Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Tai Cymdeithasol (Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth 2020 - 2025).
Cytunwyd ar y Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth i gydnabod y bydd cael cytundeb hirdymor ar sut y gellir pennu rhenti cymdeithasol a thaliadau gwasanaeth bob blwyddyn, yn rhoi sicrwydd i denantiaid ynghylch lefelau rhent, a hefyd i landlordiaid cymdeithasol gefnogi’r benthyca ariannol y maent eu hangen i helpu i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy.
* Mae’r safon rhent ar gyfer landlordiaid cymdeithasol ag anghenion cyffredinol a thai gwarchod. Nid yw'n berthnasol i:
-
tai gofal ychwanegol
-
tai â chymorth
-
unrhyw unedau tai nad ydynt yn hunangynhwysol
-
tai a osodwyd ar lefelau rhent canolraddol;
-
mathau arbenigol eraill o dai
Beth yw’r prif Reolau yn Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru?
O dan y Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth pum mlynedd, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2020, mae nifer o reolau y mae angen i landlordiaid gydymffurfio â nhw wrth osod rhenti a thaliadau gwasanaeth. Mae llawer o’r rheolau’n seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)*
* Cyhoeddir y CPI gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'n mesur y newid cyfartalog o fis i fis ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau a brynir gan y rhan fwyaf o gartrefi yn y DU. Mae'r llywodraeth yn defnyddio'r CPI fel sail ar gyfer ei tharged chwyddiant ac ar gyfer uwchraddio pensiynau'r wladwriaeth a budd-daliadau'r wladwriaeth.
Mae angen cydymffurfio â'r rheolau canlynol:
-
CPI+1% yw’r cynnydd mwyaf a ganiateir mewn unrhyw flwyddyn ond ni ddylid ystyried bod CPI+1% yn gynnydd y dylai landlordiaid cymdeithasol ei weithredu’n awtomatig.
-
Gall lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol gael ei lleihau, ei rhewi, neu gall godi “hyd at £2 ychwanegol” yr wythnos, ar yr amod nad yw cyfanswm y cynnydd mewn incwm rhent y mae’r landlord cymdeithasol yn ei gael yn fwy na CPI+1%
-
Os bydd CPI y tu allan i'r ystod o "0% i 3%", Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am bennu’r cynnydd sy’n briodol i lefelau rhent ar gyfer y flwyddyn honno.
-
Rhaid i landlordiaid cymdeithasol roi gwybod i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol os oes pryderon ynghylch effaith y safon renti ar eu cynllun busnes, eu hyfywedd ariannol, neu eu gallu i gyflawni eu rhwymedigaethau i denantiaid a benthycwyr.
-
Disgwylir i landlordiaid cymdeithasol bennu taliadau gwasanaeth sy'n rhesymol ac yn fforddiadwy. Mae'n ofynnol i landlordiaid adolygu taliadau gwasanaeth yn flynyddol, sicrhau eu bod yn darparu gwerth am arian i denantiaid a’u bod yn fforddiadwy. Mae'n ofynnol i landlordiaid restru eu taliadau gwasanaeth ar wahân i'r rhent er mwyn sicrhau tryloywder i denantiaid.
-
Fel rhan o'u penderfyniad blynyddol ar lefel codiad/gostyngiad y rhent i’w gosod, dylai landlordiaid cymdeithasol wneud asesiad o arbedion cost, gwerth am arian a fforddiadwyedd i denantiaid. Dylai’r asesiad hwnnw gael ei drafod gan y Bwrdd/Cabinet/Cyngor a'i gynnwys yn y ffurflen fonitro hunanardystio a gyflwynir i Lywodraeth Cymru.
Beth am fforddiadwyedd?
Mae fforddiadwyedd wrth wraidd y safon ac mae disgwyliadau clir ar Fyrddau Cymdeithasau Tai/LCC ac aelodau Awdurdodau Lleol i ddangos sut y byddent yn ymdrin ag effaith newidiadau rhent a thaliadau gwasanaeth ar incwm eu tenantiaid.
Bydd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol ddangos sut y maent yn lliniaru ac yn rheoli risgiau i incwm tenantiaid, a bydd y rhain yn cael eu monitro’n agos gan swyddogion.
Beth arall sydd angen i landlordiaid cymdeithasol ei wneud o dan y safon?
Mae angen rhestru taliadau gwasanaeth ar wahân i daliadau Rhent fel y gall tenantiaid weld yn glir pa wasanaethau y maent yn talu amdanynt.
Bydd angen cyflwyno ffurflenni monitro i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror bob blwyddyn i ddangos cydymffurfiaeth â'r Safon: disgwylir y datganiadau ym mis Chwefror bob blwyddyn.
Er mwyn cydymffurfio â'r safon, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn sicr bod y landlord wedi:
-
Cynnal ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol â thenantiaid gan gynnwys y fethodoleg a'r canlyniad/ymatebion
-
Dangos bod fforddiadwyedd yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer gosod rhent a thaliadau am wasanaethau, mae angen i Fyrddau ac Aelodau Lleol roi sicrwydd nad yw eu taliadau yn rhoi tenantiaid mewn caledi
-
Ystyried opsiynau a’r rhesymeg dros y penderfyniad i osod rhent a thaliadau gwasanaeth
Rhagor o wybodaeth ar gael yma:
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-12/safon-renti-a-thaliadau-gwasanaeth-2020-2025-llywodraeth-cymru.pdf
Enghreifftiau o gwestiynau i'w gofyn i'ch landlord:
-
Sut a phryd yr ymgynghorir â thenantiaid ar Rent a Thaliadau Gwasanaeth?
-
Beth yw'r cynlluniau i roi gwybod i denantiaid am yr ymgynghoriad a sut y gallant ddweud eu dweud?
-
Pa asesiad o effeithlonrwydd cost ohonoch chi fel landlord fydd yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses Gosod Rhent?
-
Sut bydd tenantiaid yn cael gwybod am newidiadau i renti a gwasanaethau? Sut fydd y wybodaeth hon ar gael i bob tenant?
-
Pa gynlluniau sydd ar waith i gefnogi tenantiaid sy'n cael trafferth talu eu rhent?
Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y rhifyn hwn o'r Agenda. Byddem wrth ein bodd yn clywed am unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'ch landlord ynglŷn â'r pwnc hwn, felly e-bostiwch [email protected] gydag unrhyw adborth neu gwestiynau pellach.