Yn aml, ystyrir y term ‘cwynion’ neu ‘i gwyno’ yn negyddol gan ddarparwyr gwasanaethau. Mae'r cwynion hyn yn tynnu sylw at feysydd allweddol lle mae angen gwella cynhyrchion a gwasanaethau, felly mewn gwirionedd mae'n adborth gwych i alluogi addasu gwasanaethau i weddu i'r defnyddiwr gwasanaeth. Onid ydych chi'n cytuno?

Yn ein cynhadledd flynyddol yr wythnos diwethaf, rhannodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyda ni bwysigrwydd

Pam fod cwynion fel Llwch Aur! (Agenda Rhifyn 13)

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar denantiaid yn cymryd rhan mewn prosesau cwyno da.

Pam fod cwynion yn bwysig

Yn aml, ystyrir y term ‘cwynion’ neu ‘i gwyno’ yn negyddol gan ddarparwyr gwasanaethau. Mae'r cwynion hyn yn tynnu sylw at feysydd allweddol lle mae angen gwella cynhyrchion a gwasanaethau, felly mewn gwirionedd mae'n adborth gwych i alluogi addasu gwasanaethau i weddu i'r defnyddiwr gwasanaeth. Onid ydych chi'n cytuno?

Yn ein cynhadledd flynyddol yr wythnos diwethaf, rhannodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyda ni bwysigrwydd o ganolbwyntio ar yr achwynydd, gan dynnu sylw y dylai'r achwynydd wastad fod yng nghanol y broses gwynion. Pwysleisiwyd hefyd bod angen i ddarparwyr gwasanaeth fod yn hyblyg wrth ymateb i wahanol anghenion achwynwyr; h.y. ystyried set unigol amgylchiadau pob unigolyn.

Felly, sut mae arfer da yn edrych?

Yn ôl yr Ombwdsmon, mae prosesau cwyno da yn hygyrch i bobl o bob rhan o'r gymdeithas; maent yn weladwy, ac maent yn cael cyhoeddusrwydd da. Mae bod yn hygyrch i bawb yn golygu bod unrhyw ddarpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer gwahanol ieithoedd a lefelau llythrennedd.

Ffactor pwysig arall i brosesau cwynion da yw pan ddefnyddir y wybodaeth o'r gŵyn i wella gwasanaethau i bawb - nid yr unigolyn sy'n gwneud y gŵyn yn unig. Er enghraifft, gall landlordiaid weithio gyda'r achwynydd i ddeall ei gŵyn ac osgoi ymddygiad amddiffynnol, gan gyfaddef pan fo rhywbeth o'i le ac ymddiheuro'n briodol. Mae'r Ombwdsmon yn pwysleisio bod defnyddio data cwynion i ddeall perfformiad yn allweddol i wella gwasanaethau.

“Nid cyflawni llai o gwynion yw nod prosesau cwynion da. Y nod yw cynnal perthnasoedd, amddiffyn enw da, a gwella gwasanaethau i'r holl ddefnyddwyr”

Beth allwch chi, fel tenantiaid ofyn i'ch landlordiaid?

1)    Os bydd rhywun yn galw'r ganolfan alwadau, a yw staff wedi'u hyfforddi ar roi cyfarwyddiadau ar sut i wneud cwyn
2)    A yw'r broses gwynion yn hygyrch? Ar lafar, mewn ysgrifen ac ati
3)    A oes panel adolygu cwynion?
4)    A yw'r Prif Weithredwr yn edrych ar gwynion?
5)    Pa ddarpariaeth a wneir ar gyfer gwahanol ieithoedd a lefelau llythrennedd?
6)    Pa fath o sianeli all pobl eu defnyddio i wneud cwyn?
7)    A yw staff yn gwybod am y polisi cwynion, a'u rôl ynddo?

 

Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y rhifyn hwn o'r Agenda. Byddem wrth ein bodd yn clywed am unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'ch landlord ynglŷn â'r pwnc hwn, felly e-bostiwch [email protected] gydag unrhyw adborth neu gwestiynau pellach.