A yw'n bryd cynyddu ymgysylltiad tenantiaid a chontractwyr? Os ydych chi'n meddwl hynny, yna mae'n dechrau yn syml gyda...

Ymgysylltiad Tenantiaid a Chontractwyr – pa mor bwysig ydyw? (Agenda Rhifyn 10)

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

Bydd contractwyr yn darparu gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw yng nghartrefi tenantiaid yn ddyddiol ac rydym yn teimlo ei bod yn bwysig bod y contractwyr hynny yn cyfathrebu mewn ffordd ystyrlon a phriodol sy'n annog diwylliant cadarnhaol o ymgysylltu â thenantiaid.  

4 Ffordd y gall Contractwyr Annog Diwylliant Cadarnhaol o Ymgysylltu â Thenantiaid

1)    Cyfathrebu Amseriad – Rydyn ni i gyd wedi eistedd gartref yn aros i rywun ddod i drwsio'r boeler ac weithiau gall hynny fod am ddiwrnod cyfan. Mewn rhai achosion, bydd neges destun syml neu alwad gan gontractwr i roi'r amser cyrraedd disgwyliedig yn newid y ffordd rydyn ni'n teimlo am yr unigolyn hwnnw yn llwyr. Bydd y lefel yna o barch ac atebolrwydd yn annog gwell perthynas.

2)    Bod yn bositif – er ei bod yn bwysig bod contractwyr wedi'u hyfforddi yn eu crefft a bod ganddynt y sgiliau penodol hynny i drwsio cawod er enghraifft, mae'r un mor bwysig bod contractwyr yn cynnal agwedd ddymunol tuag at denantiaid i sicrhau bod tenantiaid yn teimlo'n gyffyrddus yn eu cartrefi eu hunain.

3)    Cadw pethau'n syml ond llawn gwybodaeth – does neb, waeth beth fo'u hoedran neu lefel eu haddysg, eisiau, neu angen llwythi o wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud. Mae datrysiadau hawdd i'w treulio yn helpu pobl i ddeall y gwaith sy'n cael ei wneud ac yn arwain at lai o ddryswch neu gamddealltwriaeth.

4)    Aros yn wybodus – mae'n bwysig bod contractwyr yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau y gallai'r landlord fod yn eu cynnal neu unrhyw arolygon cyfredol a allai fod yn fyw. Mae hyn yn mynd yn ôl at y ffaith bod contractwyr mae'n debyg yn treulio mwy o amser gyda thenant nag unrhyw un arall, felly gallant rannu gwybodaeth gyfoes wrth fynd i eiddo tenantiaid. Gellid rhoi briff byr a ddarperir gan y tîm ymgysylltu â thenantiaid i gontractwr ar ddechrau pob wythnos / mis.

Felly, a yw'r 4 pwynt allweddol hyn yn digwydd yn eich cymdeithas dai neu awdurdod lleol? Os felly, gwych! Gwaeddwch amdano a rhannwch yr arfer hwn yn ein rhwydweithiau tenantiaid yr ydym yn eu cynnal bob yn ail fis. Cadwch lygad ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gofrestru. Os na, peidiwch â phoeni. Rydym wedi casglu rhai cwestiynau y gallwch eu gofyn i'ch landlordiaid i annog diwylliant cadarnhaol o ymgysylltu â thenantiaid.

Cwestiynau i denantiaid i’w gofyn:

  1. A yw ein contractwyr yn gwybod am ymgysylltu â thenantiaid?
  2. A oes gan ein contractwyr unrhyw hyfforddiant ynghylch ymgysylltu â thenantiaid?
  3. A yw tenantiaid yn ymwneud â recriwtio contractwyr?
  4. Pa rôl y gall contractwyr ei chwarae wrth ymgysylltu â thenantiaid
  5. A yw contractwyr yn bwydo unrhyw beth maen nhw'n ei glywed yn ôl wrth siarad â thenantiaid?
  6. Beth mae landlordiaid eraill yn ei wneud gyda chontractwyr o ran annog ymgysylltiad tenantiaid?
  7. A allwn ni fapio'r hyn rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd â'r hyn mae eraill yn ei wneud a gweld a allwn ni weithredu'r arfer gorau hwnnw?

Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y rhifyn hwn o'r Agenda. Contractwyr yw'r bobl y gellir dadlau eu bod â'r cyswllt mwyaf â thenantiaid ac felly mae'n rhan bwysig o ymgysylltu â thenantiaid. Gobeithiwn y bydd ein 10fed rhifyn Agenda yn eich annog i ofyn y cwestiynau y mae'n rhaid eu gofyn i'ch landlordiaid i sicrhau bod cysylltwyr yn ymgysylltu â thenantiaid mewn ffordd gadarnhaol. Byddem wrth ein bodd yn clywed am unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'ch landlord ynglŷn â'r pwnc hwn, felly e-bostiwch [email protected] gydag unrhyw adborth neu gwestiynau pellach..