Ymunwch â Grŵp Cynghori Pwls Tenantiaid
Helpwch ni i sicrhau bod lleisiau pob tenant yn cael eu clywed.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Grŵp Cynghori Pwls Tenantiaid (GCPT) wedi gweithredu ar ran tenantiaid yng Nghymru fel cefnogwyr a chynghorwyr ar gyfer platfform Pwls Tenantiaid. Mae’r Grŵp hwn, sy’n cynnwys dros 100 o denantiaid o bob oed ac o bob cwr o Gymru, wedi gweithio i helpu i sicrhau bod Pwls Tenantiaid yn gofyn y cwestiynau cywir.
Gall hyn fod trwy adolygu cwestiynau Pwls Tenantiaid a darparu adborth neu trwy gael yr olwg gyntaf ar arolygon cyn eu lansio. Mae aelodau GCPT wedi darparu mewnwelediad a chefnogaeth werthfawr i sicrhau bod ein gwaith polisi yn cael ei adeiladu ar sylfaen llais y tenant.
Pam ddylech chi gymryd rhan?
Mae TPAS Cymru nawr yn chwilio am aelodau newydd o GCPT, i sicrhau ein bod yn clywed safbwynt pob tenant.
Bydd bod yn rhan o GCPT yn helpu i sicrhau bod Pwls Tenantiaid yn wirioneddol yn blatfform dan arweiniad llais y tenant, a bydd yn ei dro yn helpu i lunio deddfwriaeth yng Nghymru..
Beth ydym yn chwilio amdano?
Mae 3 maen prawf syml ar gyfer cymryd rhan fel aelod GCPT:
-
Rydych yn denant i landlord preifat neu gymdeithasol yng Nghymru.
-
Rydych chi dros 18.
-
Mae gennych tua 30 munud o amser ar gael bob mis i roi adborth a dweud eich dweud ar ddyfodol Pwls Tenantiaid.
Ydy hyn yn swnio fel chi? Gwnewch gais yma: https://tpascymru.questionpro.eu/TPAG25
Mae ceisiadau ar agor tan 4pm ddydd Gwener 25 Ebrill. Bydd aelodau newydd yn cael eu e-bostio yr wythnos yn dechrau 12fed Mai.