Rydym yn gyffrous i lansio ein harolwg Pwls Tenantiaid diwethaf yn 2024 – ein pedwerydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan

Ydych chi’n rhentu yng Nghymru?

Rydym yn gyffrous i lansio ein harolwg Pwls Tenantiaid diwethaf yn 2024 – ein pedwerydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru GyfanMae’r arolwg byr hwn yn cymryd llai na 5 munud i’w gwblhau a bydd yn archwilio barn tenantiaid ar eu cartrefi, eu cymunedau a’u profiadau sy’n wirioneddol bwysig iddynt.

Gwyddom fod canfyddiadau ac argymhellion ein harolygon Pwls Tenantiaid yn cynnig cipolwg a gwybodaeth werthfawr ar heriau a phrofiadau tenantiaid ar hyn o bryd.

Bydd newidiadau polisi mawr yng Nghymru yn 2025 ac mae angen i lais y tenant fod yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau. Bydd cwblhau'r arolwg hwn yn helpu i lywio penderfyniadau llunwyr polisi.

Os ydych yn denant yng Nghymru, gwnewch yn siŵr fod eich lleisiau’n cael eu clywed trwy gwblhau’r arolwg yma.

Noer: Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan i denantiaid roi eu barn ar y pethau sydd o bwys iddynt. Cafodd ei greu gan TPAS Cymru 6 mlynedd yn ôl a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cael ei redeg yn rheolaidd ar wahanol faterion cyfoes i helpu i lunio a thrawsnewid polisi tai yng Nghymru. Mae Pwls Tenantiaid yn cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) ynghyd â rhentwyr preifat a’r rheini mewn tai â chymorth.

Diddordeb? Os ydych yn denant yng Nghymru, beth am glicio yma i ymuno â’n rhestr bostio Pwls Tenantiaid a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed mewn arolygon yn y dyfodol?

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolwg. Mae eich llais yn wirioneddol bwysig, ac rydym yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr.