Ydych chi'n denant neu'n landlord yng Nghymru? Ydych chi wedi clywed am Ddeddf Rhentu Cartrefi 2022?
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni rannu'r arolwg isod gyda thenantiaid a landlordiaid ar draws Cymru. Bydd atebion yr arolwg hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gael gwell golwg ar ddealltwriaeth tenantiaid o'r gyfraith newydd sydd ar y gweill a gweld pa newidiadau sydd angen eu gwneud wrth gyfathrebu.
Darllenwch y neges isod gan Lywodraeth Cymru a dilynwch y ddolen i gwblhau'r arolwg, sy'n cau ar ddydd Mercher 19 Hydref.
Testun Cyflwyno ar gyfer Arolygon mis Medi (Landlordiaid a Thenantiaid)
Ar 1 Rhagfyr 2022, bydd y gyfraith tai yng Nghymru’n newid gyda chyflwyno Deddf Rhantu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae Llywodraeth Cymru am ddeall yn well faint mae landlordiaid a thenantiaid yn ei wybod am y ddeddf newydd a beth gall y newidiadau ei olygu iddyn nhw. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gwblhau’r arolwg byr hwn er mwyn I ni allu sicrhau bod ein gohebiaeth am y newid i’r gyfraith mor effeithiol â phosibl.
Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw dydd Mercher 19 Hydref