Ydych chi'n denant Tai Cymdeithasol? Ydych chi'n rhentu gan y Cyngor (Awdurdod Lleol) neu Gymdeithas Tai?
Mae’n bleser gennym lansio ein 3ydd arolwg blynyddol ar Rent a Thaliadau Gwasanaeth, i glywed llais tenantiaid Cymru ar y pwnc pwysig hwn.
Our Tenant Pulse surveys on this topic have led to real change. In 2022 and 2023, TPAS Cymru presented your views in this report to senior civil servants, including the Minister (now the Cabinet Secretary for Housing).
Mae angen eich lleisiau nawr yn fwy nag erioed. Ym mis Mai, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Julie James MS ei bod yn ymestyn y polisi presennol ar safon rhent a thâl gwasanaeth am flwyddyn arall, tan fis Mawrth 2026. (Inside Housing - News - Welsh social landlords able to set their own rent increases for 2025-26)
Mae hyn yn golygu y bydd penderfyniadau’n dechrau cael eu gwneud yn ddiweddarach eleni ar gyfer 2026 a thu hwnt, ac rydym eisiau sicrhau bod llais y tenant yn cael ei glywed yn yr ystyriaeth hon.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed eich llais. Medden nhw:
"Mae arolwg Pwls Tenantiaid TPAS Cymru ar farn tenantiaid am rent a thaliadau gwasanaeth bellach yn fyw. Mae canlyniadau'r arolwg yn chwarae rhan bwysig wrth lywio ein gwaith ar ddatblygu polisi rhent cymdeithasol newydd i Gymru."
Rydym angen eich llais ar hyn o bryd i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynrychioli yn y penderfyniad hwn. Bydd eich lleisiau ar y mater hwn yn cael eu clywed gan y Gweinidog ei hun.
Bydd yr arolwg yn cymryd llai na 5 munud i’w gwblhau, a gallwch ddewis mewn raffl am ddim i ennill gwobrau bwyd blasus Cymreig.
Cewch ddweud eich dweud drwy gwblhau'r arolwg drwy glicio yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, anfonwch e-bost at [email protected]