Dros yr haf, mae TPAS Cymru wedi ail-lansio ein cyfres 'Sbotolau Ymlaen' mewn fformat newydd. 

 

Sbotolau ar: Jack Slowinski

 

Dros yr haf, mae TPAS Cymru wedi ail-lansio ein cyfres 'Sbotolau Ymlaen' mewn fformat newydd. Yn y gyfres hon, rydym yn dathlu rhai o'r cydweithwyr gwych sy'n helpu i wneud y sector tai mor arbennig. Arhoswch efo ni wrth i ni daflu goleuni ar y bobl y tu ôl i'r gwaith caled a'r arferion gorau sy'n helpu ein cymunedau i ffynnu a thenantiaid i deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u hystyried mewn polisi tai. 

 

 

Mae ein trydedd rhifyn yn y gyfres hon yn canolbwyntio ar Jack Slowinski, Uwch Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid yng Nghyngor Caerdydd. 

 

1. Beth yw fy hoff beth am fy swydd?

Rwyf wrth fy modd â'r amrywiaeth o bobl sy'n ymwneud â thai cymdeithasol. Mae wastad yn wych cwrdd â phobl newydd a dysgu pethau newydd! 

2. Beth yw un peth y byddech chi’n ei newid am dai yng Nghymru?

Un peth y byddwn yn ei newid am dai yng Nghymru yw cael cymdogion i siarad â’i gilydd yn amlach. Mae gan bob un ohonom fwy yn gyffredin â'n gilydd na gwahaniaethau. 

3.Sut mae tai wedi newid ers i mi ddechrau gwneud fy rôl?

Ers i mi ddechrau, mae tai wedi newid drwy ganolbwyntio mwy ar fynediad digidol i wasanaethau. Dyna pam mae cynhwysiant digidol mor bwysig, gan fod cymaint o adnoddau gwych ar-lein y dyddiau hyn. 

4.  Beth sy'n ffordd dda o sicrhau bod llais tenantiaid neu'r cyhoedd yn cael ei glywed?

I Mae'n bwysig cael cymaint o linellau cyfathrebu ar agor fel y gall pawb fynegi eu barn. Mae’n bwysig bod Tenantiaid/Lesddeiliaid yn gallu siarad yn hyderus ac mae hynny’n golygu gwneud tenantiaid/lesddeiliaid mor gyfforddus â phosibl wrth ddweud eu rhan! 

5.  Beth sy'n fy ysbrydoli i wneud yr hyn rwy'n ei wneud?

Mae pobl yn fy ysbrydoli i wneud fy swydd. Mae’n wych gallu casglu a throsglwyddo barn tenantiaid a lesddeiliaid a’u gwylio’n helpu gwasanaethau’r cyngor i esblygu o ganlyniad i’w cyfranogiad.