Over the last 13 months, a panel of experts have been gathering evidence to examine whether more can be done to increase the supply of affordable housing in Wales through maximizing the resources available. This is what we think. 

Panel annibynnol ar gyfer adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy 

Dros y 13 mis diwethaf, mae panel o arbenigwyr wedi bod yn casglu tystiolaeth i archwilio a ellir gwneud mwy i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru drwy wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael.


Roedd TPAS Cymru yn weithredol mewn dwy ffrwd gwaith i sicrhau bod llais y tenantiaid yn cael ei gynrychioli. Roedd hyn yn cynnwys ffrydiau gwaith y Polisi Rhenti a Safonau Ansawdd Datblygu a Safonau Gofod. Roedd meysydd eraill yr edrychwyd arnynt fel rhan o'r adolygiad yn cynnwys, cyflenwad tir, yr angen am dai, a grantiau ac ati. Bu i ni hefyd hwyluso arolwg ledled Cymru o farn tenantiaid gan ddefnyddio ein panel Pwls Tenantiaid. Cyfrannodd canlyniadau'r arolwg yn sylweddol at dystiolaeth a meddylfryd y panel.

Yr wythnos diwethaf, bu i banel annibynnol ar gyfer adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy ryddhau eu hargymhellion. Mae'r panel wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sector tai i edrych ar opsiynau i ddarparu mwy o gartrefi yng Nghymru.

Roedd y prif argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad yn cynnwys:

  1. Deall anghenion o ran tai Dylai Llywodraeth Cymru orchymyn awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau o'r farchnad dai lleol, yn seiliedig ar ddata, methodoleg ac amserlen gyson ar draws deiliadaethau tai.
  2. Safon ansawdd tai Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu safonau syml. Dylai'r safonau newydd fod yn haws i'w defnyddio ac ni ddylai unrhyw ofynion wrthdaro. Dylai safon cartrefi newydd fod yn rhai sydd bron yn ddi-garbon, a dylid ymestyn y nod presennol o 2021 i 2025 fan bellaf i gyrraedd yr un safonau ym mhob cartref, waeth beth fo'r ddeiliadaeth.
  3. Dulliau Adeiladu Modern Angen parhau i’w gael ei dreialu er mwyn gweld pa un yw’r gorau.  Bydd hyn yn galluogi cynnydd ym maint a chyflymder datblygu'r tai fforddiadwy. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gall y dulliau hyn gyfrannu at ddarparu cartrefi sydd bron yn ddi-garbon.
  4. Polisi Rhenti Dylid eu gweithredu dros bum mlynedd o 2020-21, gan gynnig sefydlogrwydd i denantiaid a landlordiaid. Dylai landlordiaid ganolbwyntio ar ystyried Gwerth am Arian ochr yn ochr â fforddiadwyedd. Dim ond pan fydd asesiad blynyddol ar effeithlonrwydd cost wedi'i gyflawni y gellir cyfiawnhau unrhyw gynnydd rhent arfaethedig.
  5. Awdurdodau Lleol fel galluogwyr ac adeiladwyr Dylai Llywodraeth Cymru annog awdurdodau lleol  a chymdeithasau tai i weithio mewn partneriaeth a rhannu eu sgiliau, capasiti ac adnoddau.  Dylent hefyd gydweithio i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol.
  6. Tir y sector gyhoeddus Dylai corff hyd braich weithredu fel hwb i wasanaethau proffesiynol a rheoli tir yn y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn cyflymu'r gwaith o ddatblygu tir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadwy.
  7. Ariannu Tai Fforddiadwy Dylai hyn fod yn bosib wrth i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r system grant bresennol. Dylai hyn gynnwys cyflwyno grant newydd, hyblyg o bum mlynedd. Dylai’r model ariannu newydd fod yn seiliedig ar egwyddorion tegwch, ansawdd a thryloywder gwerth am arian y grantiau.
  8. Taliadau Gwaddoli a'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr Adolygiad ariannol annibynnol o'r sefydliadau Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr yng Nghymru sy'n derbyn Taliadau Gwaddoli a Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau lleol sy'n derbyn y Lwfans Atgyweiriadau Mawr.

Wrth roi ein tystiolaeth wreiddiol i lywio gwaith y paneli, amlinellodd TPAS Cymru y dylai:

  • Barn a dyheadau tenantiaid a phreswylwyr fod wrth wraidd unrhyw gyfeiriad polisi newydd ar dai fforddiadwy. Dylent lywio safonau a blaenoriaethau yn y dyfodol.

 

  • Oes, mae argyfwng tai a'r angen i gyflymu nifer yr unedau a ddarparwn. Fodd bynnag, gallai'r angen am gyflwyno cyflym, cost-effeithiol arwain at ddiffyg pwyslais ar “fywiogrwydd” ac ‘hyd oes’ eiddo a'i ansawdd dylunio. Mae pwysigrwydd creu cartrefi a chymunedau lle mae pobl eisiau byw nawr ac yn y dyfodol yn cael ei anghofio yn rhy aml.

 

  • Yn benodol, rydym yn pryderu bod perygl o golli'r “cymdeithasol” mewn tai cymdeithasol oherwydd y pwysau cyllidebol ac incwm gan roi mwy o ffocws ar ffurflenni rhent. Mae cymorth grant yn arf allweddol i sicrhau bod landlordiaid yn gallu aros yn gymdeithasol. Mae hyn yn gofyn am gadw rhenti yn fforddiadwy a bod mewn sefyllfa hyderus i ddatblygu a dyrannu cartrefi sy'n hanfodol ar gyfer yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

 

Mae TPAS Cymru yn hyderus y bydd yr argymhellion yn darparu elfennau allweddol sydd yn:

  • Lleihau'r risg o golli'r “cymdeithasol” mewn tai cymdeithasol wrth i grantiau gael eu hystyried yn ofalus.
  • Cynnal safonau eiddo i sicrhau bod yna ansawdd ddyluniad sydd ei angen i ffynnu waeth beth yw ei ddeiliadaeth.
  • Darparu sicrwydd tymor hir i denantiaid o ran rhenti.

Mewn ymateb i'r argymhellion, dywedodd Prif Weithredwr TPAS Cymru, David Wilton:

“Er nad oedd argymhellion penodol ynghylch y lefel o ymgysylltiad tenantiaid sy'n angenrheidiol i lywio datblygu tai fforddiadwy, rydym yn hyderus y bydd yr argymhellion hyn yn cyd-fynd ac yn cael eu hadlewyrchu yn adolygiad Tenantiaid wrth Wraidd sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Gobeithiwn y bydd hyn yn sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau ynglŷn â darparu tai fforddiadwy yng Nghymru, gan gynnwys polisi rhenti”.