Llais Tenantiaid Cymru Gyfan: Rhifyn 1: Mae’r Pethau Sylfaenol yn Cyfrif
Ein hadroddiad diweddaraf yw Arolwg Tenantiaid Cymru Gyfan Flynyddol cyntaf TPAS Cymru ar Ganfyddiadau Tenantiaid sy’n archwilio barn tenantiaid ar eu cartrefi, eu cymunedau a materion sydd wir o bwys iddynt.
Cawsom y gyfradd ymateb fwyaf hyd yma ar gyfer Pwls Tenantiaid gyda bron i 800 o denantiaid tai cymdeithasol a thenantiaid preifat. Roeddem yn falch iawn o gael demograffig eang o denantiaid, gan gynnwys codiad nodedig yn nifer y rhentwyr preifat iau a ymatebodd.
Credwn fod y canfyddiadau a'r argymhellion yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r heriau y mae tenantiaid yn eu profi a sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartrefi a'u cymunedau.
Pwls Tenantiaid yw'r panel swyddogol ledled Cymru ar gyfer tenantiaid sy'n rhoi eu barn ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Fe’i crëwyd 4 blynedd yn ôl gan TPAS Cymru o dan raglen o waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhedeg bob chwarter ar faterion amserol ac yn helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) ynghyd â rhentwyr preifat gan gynnwys myfyrwyr a'r rheini mewn tai â chymorth.
Os ydych yn denant, pam na wnewch chi ymuno â’n panel Pwls Tenantiaid a chael dweud eich dweud?
Enw’r Adroddiad: LLAIS TENANTIAID CYMRU GYFAN FLYNYDDOL: RHIFYN 1 – MAE’R PETHAU SYLFAENOL YN CYFRIF
Gweler yr Adroddiad Llawn yma
Gweler y Grynodeb Weithredol yma
Awduron Arweiniol: David Wilton ac Elizabeth Taylor
Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd eu hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.
Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais Tenantiaid a noddir gan
Gadewch i ni drafod
Bu i ni gynnal digwyddiad briffio amser cinio AM DDIM ar ddiwrnod y lansiad i drafod y canfyddiadau.
Mae recordiad ar-lein o’r weminar ar gael i aelodau o’n tudalen ‘Wedi Methu Allan, Daliwch i Fyny’ ar ein gwefan.
Pam na wnewch chi gael golwg ar ein hadroddiadau blaenorol
Tryloywder y Gwobr Raffl
Fel diolch am gwblhau'r arolwg, gall tenantiaid ddewis i geisio am wobr raffl. Mae'r data hwn yn cael ei ddal ar wahân i'r arolwg dienw.
Yr enillwyr ar gyfer y Pwls hwn yw:
-
Angharad, Rhentwr Preifat o Ynys Môn - £75 taleb One4All.
-
Gemma, tenant Cyngor Bro Morgannwg - £75 taleb One4All.
Fe'u hysbyswyd a bydd eu gwobrau'n cael eu hanfon yn fuan.