Mewnwelediad y Tenant - Mawrth 2024
Gwrando ar denantiaid yng Nghymru: pryderon allweddol presennol tenantiaid a glywyd gan TPAS Cymru
Fel y sefydliad cyfranogiad tenantiaid cenedlaethol yng Nghymru, rydym yn gwrando ar denantiaid tai cymdeithasol ledled Cymru am yr hyn sy’n bwysig iddynt a’r hyn sy’n eu poeni o ran eu cartrefi a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Roeddem eisiau rhannu’r mewnwelediad pwysig yr ydym wedi’i glywed gan denantiaid yn ddiweddar, i helpu i lunio a dylanwadu ar benderfyniadau i sicrhau bod tai yng Nghymru yn diwallu anghenion, blaenoriaethau a dyheadau tenantiaid.
O'r mewnwelediad tenantiaid hwn rydym wedi nodi themâu allweddol a nodir yn ein cyhoeddiad Mewnwelediad y Tenant yma. Mae'r themâu yn rhoi cipolwg o farn a safbwyntiau ar y prif feysydd sy'n peri pryder i denantiaid ar hyn o bryd.
Mae’r gwrando a’r dysgu hwn yn rhan o’n sgyrsiau parhaus gyda thenantiaid ledled Cymru, a byddwn yn parhau i wrando a rhannu eu barn.