Mae’r ffordd yr ydych chi’n rhentu yn newid… i denantiaid a landlordiaid
Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sy’n cynrychioli’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau, yn cael ei rhoi ar waith ar 15 Gorffennaf 2022. Mae wedi cymryd llawer mwy o amser na’r disgwyl i Lywodraeth Cymru roi Deddf 2016 ar waith, gan ei bod yn ofynnol datblygu llawer o offerynnau statudol*, rhai a oedd angen ymgynghori arnynt ar wahân.
*Mae Offerynnau Statudol (OS) yn ffurf ar ddeddfwriaeth sy'n caniatáu i ddarpariaethau Deddf Seneddol gael eu dwyn i rym wedi hynny neu ei newid heb i'r Senedd orfod pasio Deddf newydd.
Crynodeb o'r prif newidiadau i denantiaid:
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno llawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth yng Nghymru a’r bwriad yw y bydd y newidiadau yn ei gwneud hi’n symlach ac yn haws rhentu cartref.
Bydd Llywodraeth Cymru a landlordiaid yn cynhyrchu llawer o wybodaeth ddefnyddiol am y newidiadau dros yr ychydig fisoedd nesaf, ond yn y cyfamser, dyma rai o’r prif newidiadau.
O dan y gyfraith newydd, bydd tenantiaid a deiliaid trwyddedau yn dod yn 'ddeiliaid contract'. Bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan 'gontractau meddiannaeth'
Ceir dau fath o gontract meddiannaeth:
-
contract diogel: Defnyddir hwn yn lle'r tenantiaethau diogel a roddwyd gan awdurdodau lleol (cynghorau) a'r tenantiaethau sicr a roddwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (a adnabyddir yn gyffredin fel Cymdeithasau Tai); a
-
contract safonol: Dyma'r contract diofyn ar gyfer y sector rhentu preifat, ond gall awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol (e.e. ‘contract safonol â chymorth’ ar gyfer llety â chymorth)
Bydd eich landlord yn rhoi 'contract meddiannaeth' i chi, a fydd yn disodli eich cytundeb tenantiaeth neu eich cytundeb trwyddedu.
Bydd angen cofnodi eich contract meddiannaeth â'ch landlord ar ffurf ‘datganiad ysgrifenedig’. Diben y datganiad ysgrifenedig yw cadarnhau telerau'r contract. Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig hwn gynnwys holl delerau gofynnol y contract. Y telerau hyn yw:
-
Materion allweddol: Er enghraifft, enwau'r unigolion dan sylw a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.
-
Telerau Sylfaenol: Mae'r rhain yn trafod yr agweddau pwysicaf ar y contract, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cymryd meddiant o'r eiddo a rhwymedigaethau'r landlord mewn perthynas â gwneud gwaith atgyweirio.
-
Telerau Atodol: Mae'r rhain yn ymwneud â'r materion mwy ymarferol, bob dydd sy'n berthnasol i'r contract meddiannaeth, er enghraifft, y gofyniad i roi gwybod i'r landlord os na fydd yr eiddo yn cael ei feddiannu am gyfnod o bedair wythnos neu ragor.
-
Telerau Ychwanegol: Mae'r rhain yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft, teler sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes.
Rhaid iddo hefyd gynnwys gwybodaeth sy'n egluro ystyr a phwysigrwydd y contract.
Gellir cyflwyno contractau ar ffurf papur neu, os bydd deiliad y contract yn cytuno, yn electronig. Mae'n arfer da llofnodi'r contract, gan fod hynny'n cadarnhau eich bod yn fodlon arno.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen gwe Rhentu Cartrefi Llywodraeth Cymru (https://llyw.cymru/mae-cyfraith-tai-yn-newid-rhentu-cartrefi) neu cysylltwch â’ch landlord am ragor o wybodaeth.