Mae TPAS Cymru wedi croesawu rhyddhau adroddiad newydd sy’n canolbwyntio ar rymuso tenantiaid a mynd i’r afael â’r argyfwng tai trwy gydweithio cryfach a gweithredu ystyrlon rhwng landlordiaid a thenantiaid.

Mae TPAS Cymru yn croesawu adroddiad newydd sy’n amlygu pwysigrwydd ymgysylltu â thenantiaid a mynd i’r afael â’r argyfwng tai

Dywedodd Elizabeth Taylor, Arweinydd Polisi TPAS Cymru:

"Rydym yn falch o weld yr adroddiad pwysig hwn y mae mawr ei angen yn cael ei gyhoeddi. Mae’r argymhellion yn adlewyrchu’r angen a’n hymrwymiad i rymuso tenantiaid, cryfhau llais y tenant a sicrhau y gallwn fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Fel sefydliad aelodaeth nid-er-elw, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau. Mae’r mewnwelediadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio rhwng tenantiaid, landlordiaid, a llunwyr polisi i greu newid ystyrlon a pharhaol.

 Edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith gyda thenantiaid, ein haelodau a phartneriaid i adeiladu ar y cynnydd a amlygwyd yn yr adroddiad hwn ac i hyrwyddo arferion gorau o ran ymgysylltu a chyfranogiad tenantiaid."

Mae TPAS Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda thenantiaid, landlordiaid a rhanddeiliaid ledled Cymru i sicrhau bod lleisiau tenantiaid nid yn unig yn cael eu clywed ond yn arwain at newid ystyrlon mewn polisi ac arfer tai.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma: Rhaid i Lywodraeth Cymru adeiladu mwy o dai cymdeithasol