Mae ein Pumed Pwls Tenantiaid Blynyddol ar Gynhesrwydd Fforddiadwy ac Effeithlonrwydd Ynni Nawr yn Fyw!
Yn TPAS Cymru, credwn fod yn rhaid i leisiau tenantiaid fod wrth wraidd polisi tai.
Mae ein Pumed Adroddiad Pwls Tenantiaid Blynyddol ar Gynhesrwydd Fforddiadwy ac Effeithlonrwydd Ynni yn cyfleu profiadau gwirioneddol tenantiaid ledled Cymru - o dai cymdeithasol i rentwyr preifat - gan amlygu heriau fforddiadwyedd gwresogi, effeithlonrwydd ynni, a'r newid i Sero Net.
Pwls Tenantiaid yw’r panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cafodd ei greu 6 mlynedd yn ôl gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat a'r rhai mewn tai â chymorth.
Os ydych yn denant, pam na wnewch chi ymuno â'n Panel Pwls Tenantiaid i gael dweud eich dweud?
Y meysydd allweddol a archwiliwyd yn arolwg eleni:
-
Fforddiadwyedd Gwresogi: A all tenantiaid fforddio gwresogi eu cartrefi yn iawn?
-
Graddfeydd Perfformiad Ynni (EPC): A yw tenantiaid yn deall sut mae effeithlonrwydd ynni yn effeithio ar eu tai?
-
Trawsnewid i Gwresogi Trydan: Beth yw pryderon mwyaf tenantiaid ynghylch symud oddi wrth nwy?
-
Rhent yn erbyn Effeithlonrwydd Ynni: A ddylai rhent adlewyrchu perfformiad ynni cartref?
Gyda dros 600 o denantiaid wedi ymateb, mae’r arolwg hwn yn rhoi cipolwg ar yr hyn y mae tenantiaid ledled Cymru yn ei brofi.
Enw'r adroddiad: Pumed Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan – Sicrhau Cynhesrwydd Fforddiadwy
Dyma'r ddolen i'r adroddiad llawn
Dyma'r ddolen i'r crynodeb gweithredol
I ddarllen ein datganiad i'r wasg, cliciwch yma
Mae'r sleidiau o'r digwyddiad lansio i'w gweld yma
Mae recordiad y digwyddiad lansio i'w weld yma
Awdur arweiniol: Akshita Lakhiwal
Cefnogwyd gan: David Wilton, Eleanor Speer a Iona Robertson
Llongyfarchiadau i enillwyr y raffl ar gyfer yr arolwg Pulse hwn. Yr enillwyr yw:
-
Keith - tenant Cymdeithas Tai o Gaaerdydd
-
Laura - tenant preifat o ogledd Cymru
-
Yvonne - tenant awdurdod lleol o Wrecsam
-
Lou - tenant awdurdod lleol o de ddwyrain Cymru
Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.
Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan:
