Mae ein Pwls Tenantiaid diweddaraf yn 2024, ar Rent, Taliadau Gwasanaeth a Fforddiadwyedd, yn canolbwyntio ar yr angen am fwy o dryloywder mewn tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae ein trydydd Pwls Tenantiaid ar Osod Rhent, Taliadau Gwasanaeth a Fforddiadwyedd nawr yn fyw!

Mae ein Pwls Tenantiaid diweddaraf yn 2024, ein harolwg ar Rent, Taliadau Gwasanaeth a Fforddiadwyedd, yn canolbwyntio ar yr angen am fwy o dryloywder mewn tai cymdeithasol yng Nghymru. Clywsom leisiau tenantiaid o bob rhan o Gymru, ac rydym bellach yn falch o allu cyhoeddi ein hadroddiad i’r cyhoedd gyda’n mewnwelediadau.

Mae'r Adroddiad Pwls Tenantiaid hwn yn rhoi cipolwg ar ganfyddiadau, agweddau a phrofiadau tenantiaid ledled Cymru. Mae'n adlewyrchu lleisiau tenantiaid o bob rhan o Gymru ac o ystod eang o gefndiroedd.

Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Fe’i sefydlwyd yn 2017 gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru).

Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae’n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Awdurdod Lleol) ynghyd â rhentwyr preifat a’r rheini mewn tai â chymorth.

Os ydych yn denant, beth am ymuno â'n panel Pwls Tenantiaid a dweud eich dweud? Ymunwch yma

Enw'r adroddiad: Rhent, Taliadau Gwasanaeth a Fforddiadwyedd – Yr angen am fwy o dryloywder 

Dyma'r ddolen i'r adroddiad llawn   

Dyma'r ddolen i'r grynodeb weithredol

I weld y datganiad i'r wasg ar yr arolwg hwn, cliciwch yma

Gweler Sleidiau o'r lawnsiad yma

Gweler recordiad o'r lawnsiad yma

 

Awduron: Elizabeth Taylor, David Wilton, Eleanor Speer

Llongyfarchiadau i enillwyr y raffl ar gyfer yr arolwg Pwls yma. Yr enillwyr yw:

  • John – tenant from Awdurdod Lleol Sir y Fflint
  • Marianne – tenant Cymdeithas Tai

I ddarllen sylwadau tenantiaid ar yr adroddiad yma, cliciwch yma. 

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon ac i'n cydweithwyr tai am eu cefnogaeth. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais Tenantiaid a noddir gan: